Torra di Capu Neru

Mae Tŵr Capu Neru (Corseg:Torra di Capu Neru) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Coti-Chiavari (Corse-du-Sud) ar arfordir gorllewinol ynys Corsica. Mae'r tŵr yn eistedd ar uchder o 119 metr (390 troedfedd) ar bentir Capu Neru. Mae'n un o dri thŵr yn y gymuned y ddau arall yw Torra di a Castagna a Torra di Capu di Muru.[1]

Torra di Capu Neru
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCoti-Chiavari Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau41.7253°N 8.70944°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb hanesyddol cofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Hanes golygu

Cychwynnwyd adeiladu'r tŵr ym 1597. Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[2] Ym 1994 fe restrwyd y tŵr fel un o henebion hanesyddol (Monument historique) Ffrainc.[3]

O ffordd y D155, mae ffordd fechan yn mynd i lawr tuag at Cala di Cigliu. Ar derfyn y ffordd fechan mae'r tŵr ar daith gerdded tua 15 munud ar hyd llwybr trwy'r llystyfiant sydd wedi ei gynal yn gymharol dda. Er nad yw wedi ei hadfer, mae wedi goroesi yn eithaf da ac eithrio'r rhyngdyllau ar y teras sy'n dirywio ychydig. Mae'r safle yn cynnig golygfa odidog o Gwlff Valinco[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Coti-Chiavari les trois tours Genoises adalwyd 1 Awst 2018
  2. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. t. 141. ISBN 2-84050-167-8.
  3. "Monuments historiques: Tŵr de Capo-Nero ou de Capu-Neru". Ministère de la culture. Cyrchwyd 4 May 2014..
  4. Ajaccio Tourisme - Tour de Capo Nero Archifwyd 2020-09-19 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 1 Awst 2018

Dolenni allanol golygu