Mae Tŵr Galeria (Corseg:Torra di Galeria, Ffrangeg: Tour de Galeria) neu Calcinaggia neu Calcinaghja yn dŵr Genoa adfeiliedig sydd wedi ei leoli yn commune Galéria (Haute-Corse) ar arfordir gorllewinol ynys Corsica. Mae'r tŵr yn eistedd ar ochr ddeheuol aber Afon Fangu.

Torra di Galeria
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGaléria Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau42.4186°N 8.6575°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb hanesyddol cofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Hanes golygu

Adeiladwyd Tŵr de Galeria rhwng 1551 a 1573.[1] Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[2] Fe'i cynhwysir mewn rhestr a luniwyd gan awdurdodau Genoa ym 1617 sy'n cofnodi bod y tŵr yn cael ei warchod gan bennaeth a dau filwr a dalwyd gan dref Calvi.[3]

Mae rhan isaf y tŵr a storfa sydd yng nghlwm iddo wedi goroesi, roeddent yn dal i gael eu defnyddio ar ddechrau'r 18 ganrif. Cafodd ei werthu i fuddianau preifat ym 1785 ond cafodd ei ddinistrio gan ffrwydrad a osodwyd gan drigolion lleol ym 1792. Roeddynt yn hawlio mae eu heiddo cymunedol hwy oedd yr adeilad a'i thiroedd[4].

Adferiad a gwarchodaeth golygu

Adferwyd y stordy ym 1977 gan y Gymdeithas Llwybrau Ieuenctid i'w drawsnewid yn hostel ieuenctid. Bu gwella ar y llwybr sy'n arwain at y tŵr yr un pryd.[5].

Ym 1994 fe restrwyd y tŵr fel un o henebion hanesyddol (Monument historique) Ffrainc.[1]

Mae'r foryd i'r gogledd i'r tŵr yn eiddo i asiantaeth o wladwriaeth Ffrainc, y Conservatoire du littoral.[6]

Gweler hefyd golygu

Galeri golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Monuments historiques: Tŵr de Galeria ou de Calcinaggia ou Calcinaghja". Ministère de la culture. Cyrchwyd 4 May 2014..
  2. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 73–144. ISBN 2-84050-167-8.
  3. Graziani, Antoine-Marie (1992). Les Tours Littorales. Ajaccio, France: Alain Piazzola. t. 136, no. 51. ISBN 2-907161-06-7.
  4. TOUR OF GALERIA adalwyd 13 Awst 2018
  5. TOUR DE GALERIA adalwyd 13 Awst 2018
  6. "Embouchure du Fangu". Conservatoire du littoral, Ministère de l'écologie, du développement durable et de l'énergie. Cyrchwyd 13 March 2017.

Dolenni allanol golygu