Mae Tŵr Nonza (Corseg:Torra di Nonza) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Nonza (Haute-Corse) ar arfordir Corsica. Mae'r tŵr yn eistedd ar uchder o 155 metr (509 troedfedd) ym mhentref Nonza ar arfordir gorllewinol ynys Capicorsu.

Torra di Nonza
MathTyrau Genoa yng Nghorsica Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNonza Edit this on Wikidata
GwladBaner Corsica Corsica Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau42.785°N 9.3436°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb hanesyddol cofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari[1] Mae union ddyddiad y gwaith adeiladu yn anhysbys ond mae'r tŵr wedi'i gynnwys mewn rhestr a luniwyd gan awdurdodau Genoa ym 1617 lle cofnodir ei fod ond yn cael ei warchod yn ystod y nos.[2]

Hanes golygu

Mae Tŵr Nonza yn nodedig am ei gwarchae ym 1768, yn ystod y rhyfel rhwng Corsica annibynnol Pasquale Paoli a Ffrainc. Cafodd y milwyr a oedd yn amddiffyn pentref Nonza eu carcharu gan luoedd Ffrainc i'r gogledd o'r pentref, ond roedd cadlywydd y milwyr wedi aros yn y tŵr. Dywedir ei fod wedi llwyddo i greu ffug argraff a oedd yn gwneud i'r milwyr Ffrengig credu eu bod yn gwrthsefyll llu mawr a ffyrnig yn ystod y gwarchae ar y tŵr. O herwydd y ffug bu'n rhaid i luoedd Ffrainc cytuno i amodau ildio'r Cadlywydd. Roedd yr amodau yn cynnwys caniatáu i'r amddiffynwyr ymuno â gweddill milwyr Paoli, ac i roi iddynt anrhydeddau rhyfel. Pan ddaeth y Cadlywydd allan o'r tŵr, ar ei ben ei hun, gofynnodd y gwarchaewyr Ffrengig, yn syfrdanol, "ble mae gweddill y milwyr". Atebwyd "Gweler y Cadlywydd a'i luoedd".[3]

Ym 1926 fe restrwyd y tŵr fel un o henebion hanesyddol (Monument historique) Ffrainc.[4]

Galeri golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 73–144. ISBN 2-84050-167-8.
  2. Graziani, Antoine-Marie (1992). Les Tours Littorales (yn French a Italian). Ajaccio, France: Alain Piazzola. t. 136, no. 67. ISBN 2-907161-06-7.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. Gregorovius, Ferdinand (1855). Corsica: Picturesque, Historical, and Social: with a Sketch of the Early Life of Napoleon, and an Account of the Bonaparte, Paoli, Pozzo Di Borgo, and Other Principal Families. Philadelphia: John E. Potter. t. 188.
  4. "Monuments historiques: Tŵr de Nonza ou de Torra". Ministère de la culture. Cyrchwyd 4 May 2014..

Darllen pellach golygu