Toti Dal Monte
Soprano operatig o'r Eidal oedd Antonietta Meneghel (27 Mehefin 1893 - 26 Ionawr 1975), sy'n fwy adnabyddus wrth ei henw llwyfan Toti Dal Monte.[1] Efallai ei bod yn cael ei chofio gorau heddiw am ei pherfformiad fel Cio-cio-san yn opera Puccini Madama Butterfly, wedi iddi recordio'r rôl honno'n gyflawn ym 1939 gyferbyn a Beniamino Gigli fel Pinkerton.[2]
Toti Dal Monte | |
---|---|
Ffugenw | Toti Dal Monte |
Ganwyd | Antonietta Meneghel 27 Mehefin 1893 Mogliano Veneto |
Bu farw | 26 Ionawr 1975 o clefyd Pieve di Soligo |
Man preswyl | Pieve di Soligo |
Dinasyddiaeth | Yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera, actor llwyfan |
Arddull | opera |
Math o lais | soprano coloratwra, soprano |
Priod | Enzo de Muro Lomanto |
Plant | Marina Dolfin |
Perthnasau | Massimo Rinaldi, Antonella Rinaldi, Benedetta Gravina |
Gyrfa
golyguYn enedigol o Mogliano Veneto, yn Nhalaith Treviso, yr Eidal gwnaeth Toti ei hymddangosiad cyntaf yn La Scala yn 23 oed fel Biancofiore yn Francesca da Rimini gan Zandonai.[3] Roedd hi'n llwyddiant ar unwaith, a'i llais clir "tebyg i eos" yn cael ei werthfawrogi'n fawr ledled y byd. Mae ei rolau mwyaf adnabyddus yn cynnwys y rhannau bel canto Amina (yn La sonnambula gan Bellini), Lucia (yn Lucia di Lammermoor gan Donizetti ) a Gilda (yn Rigoletto gan Verdi). Ym 1922 perfformiodd sawl rhan gyferbyn â'r tenor Carlo Broccardi yn y Teatro Massimo yn Palermo; gan gynnwys Cio-cio-san, Gilda, a rôl y teitl yn La Wally gan Alfredo Catalani.
Ym 1924, yn ffres o berfformiadau hynod lwyddiannus ym Milan a Pharis, ond cyn ei hymddangosiad cyntaf yn Llundain neu Efrog Newydd, cafodd ei chyflogi gan y Fonesig Nellie Melba i fod yn un o brif gantorion cwmni opera Eidalaidd yr oedd Melba yn ei threfnu i fynd ar daith o amgylch Awstralia. Profodd yn llwyddiant poblogaidd a beirniadol ar y daith, ac ni fu unrhyw gystadleuaeth rhwng Melba oedd yn heneiddio a Dal Monte llawer iau. Yn hytrach, fe wnaethon nhw daflu tuswau ar ôl perfformiadau ei gilydd. Ym 1928, ar ei thrydydd ymweliad ag Awstralia, priododd y tenor Enzo de Muro Lomanto yn Eglwys Gadeiriol y Santes Fair, Sydney.[4] Roedd hi'n fam i'r actores Marina Dolfin (1930-2007)[5] ac yn nain i'r actorion Massimo Rinaldi ac Antonella Rinaldi.[6]
Ar 12 Ionawr 1929 yn La Scala, creodd rôl Rosalina, ym première byd o Il re gan Umberto Giordano.[7]
Ymddeolodd o'r llwyfan operatig ym 1945. Fodd bynnag, parhaodd i weithio yn y theatr (yn ogystal â gwneud y recordiadau achlysurol) ac ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau. Efallai mai ei ffilm fwyaf adnabyddus yw, Anonimo veneziano[8] gan Enrico Maria Salerno, stori o 1970 am gerddor yn La Fenice. Daeth yn athrawes canu a hyfforddwr; roedd ei disgyblion yn cynnwys Dodi Protero, Dolores Wilson, Maaria Eira a Gianna D'Angelo.
Marwolaeth
golyguBu farw Dal Monte ym 1975 yn 81 oed, yn Pieve di Soligo, o ganlyniad i anhwylderau cylchrediad y gwaed.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Toti Dal Monte | enciclopedia delle donne" (yn Eidaleg). Cyrchwyd 2021-04-23.
- ↑ Laura, Macy (2008). "Del Monte, Toti". The Grove Book of Opera Singers. Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen. t. 107. ISBN 978-0-19-533765-5.
- ↑ "Toti Dal Monte | Biography & History". AllMusic (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-23.
- ↑ reporter, Staff (2020-08-22). "From the Archives, 1928: Near riot at opera singers' Sydney wedding". The Sydney Morning Herald (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-22.
- ↑ "Toti Dal Monte". IMDb. Cyrchwyd 2021-04-23.
- ↑ "Marina Dolfin". IMDb. Cyrchwyd 2021-04-23.
- ↑ Holden, Amanda (2001). "Umburto Giordano - Il re". The new Penguin opera guide. Llundain: Penguin. t. 303. ISBN 0-14-029312-4. OCLC 48629111.
- ↑ Salerno, Enrico Maria (1970-10-03), Anonimo veneziano, Florinda Bolkan, Tony Musante, Toti Dal Monte, Sandro Grinfan, Ultra Film, https://www.imdb.com/title/tt0065408/?ref_=nv_sr_srsg_0, adalwyd 2021-04-23
- ↑ "TOTI DAL MONTE, 81, SOPRANO OF THE '20'S". The New York Times (yn Saesneg). 1975-01-28. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-04-23.