Tref farchnad yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Wem.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Wem Urban yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Saif 9 milltir (14 km) i'r gogledd o'r Amwythig ar y rheilffordd rhwng y dref honno a Crewe yn Swydd Gaer.[2]

Wem
Mathtref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolWem Urban
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaAmwythig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.8555°N 2.725°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ514289 Edit this on Wikidata
Cod postSY4 Edit this on Wikidata
Map

Mae enw'r dref yn deillio o'r hen Saesneg wamm, sy'n golygu cors, gan fod tir corsiog yn bodoli yn ardal y dref. Dros amser, cafodd hyn ei lygru i ffurfio "Wem". [3] Mae ganddi boblogaeth o oddeutu 5,142.[4]

Dos i Wem

golygu

Mewn rhannau o'r hen Sir Feirionnydd defnyddir y term "Dos i Wem" i olygu "dos o 'ma", "i ffwr' a thi", "hel dy draed i rwle", "ffŵc off". Gan fod Wem ychydig bach dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr grym yr ymadrodd yw "dos allan o'r wlad", "dos yn ddigon pell o'r fan hyn" [5]

Glyn Dŵr

golygu

Ym 1410 cafodd tref Wem ei "llosgi'n llwyr a'i gwastraffu gan y gwrthryfelwyr Cymreig" yn ystod Gwrthryfel Glyn Dŵr. [6]

Enwogion Wem

golygu

Pysen bêr

golygu

Yn y dref cafodd y bysen bêr ei drin yn fasnachol am y tro gyntaf, o dan yr amrywiaeth o'r enw Eckford Sweet Pea, ar ôl ei ddyfeisiwr, y garddwriaethwr Henry Eckford. Cyflwynodd isrywogaeth o'r bysen bêr gyntaf ym 1882, a sefydlodd yn Wem ym 1888, gan ddatblygu a chynhyrchu llawer mwy o isrywogaethau.

Chwaraeon

golygu

Mae clybiau chwaraeon yn y dref yn cynnwys:

  • Clwb Pêl-droed Tref Wem
  • Clwb Criced Wem [9]
  • Clwb Tenis Wem
  • 3 Clwb Bowlio

Bywyd crefyddol

golygu

Yn y dref mae pedair prif eglwys:

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 27 Medi 2020
  2. OS Explorer Map 241, Shrewsbury, Wem, Shawbury & Baschurch. ISBN 978-0-319-46276-8
  3. "History of Wem". Wem. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-16. Cyrchwyd 2 July 2008.
  4. Gwefan ystadegau'r Cyfrifiad Cenedlaethol: Swyddfa Ystadegau Gwladol; adalwyd 09/02/2013
  5. O. M. Lloyd O Gader Idris tud 170, Gwasg y Dydd Dolgellau, 1997
  6. Everard, Judith (2019). The Victorian history of Shropshire. Wem. J. P. Bowen, Wendy Horton. [London]. ISBN 978-1-912702-08-4. OCLC 1079338551.
  7. Dickins, William (1987). An Illustrated Literary Guide to Shropshire. Shropshire Libraries. tt. 84–85, 117. ISBN 0-903802-37-6.
  8. IMDb Database retrieved 17 March 2018
  9. Cooper, Dave. "Wem Cricket Club are crowned champions". www.shropshirestar.com. Cyrchwyd 2020-05-06.
  10. "St Peter & St Pauls, Wem". www.wemcofe.co.uk. Cyrchwyd 2020-05-09.
  11. "Home". Wem Baptist Church (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-09.
  12. "Wem Churches near Shrewsbury, Shropshire".
  13. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2021-02-22.