Triceratops
Amrediad amseryddol: Cretasaidd Diweddar, 68–66 Miliwn o fl. CP
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Reptilia
Uwchurdd: Dinosauria
Urdd: Ornithischia
Teulu: Ceratopsidae
Genws: Triceratops
Rhywogaeth: T. horridus
Enw deuenwol
Triceratops horridus
(Marsh, 1889)

Genws o ddeinosor llysysol yw Triceratops a ymddangosodd gyntaf yn ystod cyfnod Maastrichtaidd hwyr y cyfnod Cretasaidd Diweddar, tua 68 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn yr hyn sydd bellach yn Ogledd America. Mae'n un o'r genera dinosoriaid di-adar olaf y gwyddys amdano, a daeth i ben yn nigwyddiad difodiant Cretasaidd-Paleogen 66 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae'r enw Triceratops, sy'n llythrennol yn golygu 'wyneb tri chorn', yn deillio o'r geiriau Groeg tair- (τρί-) sy'n golygu 'tri', kéras (κέρας) sy'n golygu 'corn', a ṓps (ὤψ) sy'n golygu 'wyneb'.[1]

Eginyn erthygl sydd uchod am ddeinosor. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau golygu