Trilliw Bach

(Ailgyfeiriad o Trilliw bach)
Trilliw Bach
Oedolyn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Aglais
Rhywogaeth: A. urticae
Enw deuenwol
Aglais urticae
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Nymphalis urticae
Vanessa urticae

Glöyn byw lliwgar o deulu'r Nymphalidae yw'r Trilliw Bach neu Iâr Fach Amryliw (Lladin: Aglais urticae; Saesneg: Small Tortoiseshell). Mae'n gyffredin mewn llawer o gynefinoedd ar draws Ewrasia. Mae'r oedolyn rhwng 45 a 62 mm ar draws yr adenydd. Mae ei uwchadenydd yn oren gyda marciau du a melyn a rhes o smotiau glas ger yr ymyl. Mae'r isadenydd yn frown gan fwyaf. Mae lliw'r lindysyn yn amrywio o ddu i felyn. Mae'r lindys ifainc yn byw mewn grwpiau mewn gwe, yn bwydo ar ddail danadl poethion neu ddanadl bach.

Lindysyn

Cylch bywyd

golygu

Mae ei dymor fel oedolyn ymhlith yr hwyaf o holl loynnod byw Ewrop: gan ymestyn o'r gwanwyn cynnar hyd at ddiwedd yr hydref. Mae'n gaeafgysgu fel oedolyn, gyda thystiolaeth diweddar ei fod yn clwydo mor gynnar â Mis Awst[1] efallai, yn sgil newid hinsawdd, oherwydd deffroad gwanwyn cynharach. Yng ngwledydd deheuol ei diriogaeth ceir dwy genhedlaeth.[2]

• Iar fach amryliw

Yr enw cyntaf i gael ei safoni, mae'n debyg gan Dafydd Dafis yn Y Naturiaethwr[3]

• Trilliw bach

Safonwyd gan Banel Enwau a Thermau Cymdeithas Edward Llwyd ac a gyhoeddwyd yn 2009[4]

• Twm Dew

Clywyd ar lafar gan drigolyn o Lanrug, Arfon[5]. Meddai Steffan ab Owain: "....rwyf wedi clywed am Twm Dew. Edrycha yn y gyfrol fach wych na Penblwydd Mwnci ayyb ac ar dudalen 71, dwi’n meddwl, ac y mae pwt amdano ynddo. Yr unig le imi weld cyfeiriad ato mewn print fel arall yw yn nghyfrol Hafodydd Brithion, os cofiaf yn iawn"[6]. Efallai mai ond at y glöyn gaeafgysgol y mae'r enw hwn yn cyfeiro ato. Cyfeiria Geiriadur Prifysgol Cymru at Twm Dew fel enw amgen o Fôn am y gwrachen ludw

• Crwbanog bach[7]

Enw mae'n debyg wedi ei seilio ar yr elfen -tortoise- er i tortoiseshell gyfeirio at liw yn hytrach na'r ymlusgiad. Nid yw'r enw hwn yng Geiriadur y Brifysgol

Aglais urtica

Mae'r enw rhywogaethol (yr ail enw) yn cyfeirio at blanhigyn bwyd y lindysen, sef danadl poethion Urtica urens.

Cyffredinol

golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd[8].

Wedi deor o'i ŵy mae'r Trilliw Bach yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rhaglen Winterwatch BBC, Ionawr 2020
  2. E. Pollard and TJ Yates (1993) Monitoring butterflies for ecology and conservation. Chapman & Hall. ISBN 0 412 63460 0
  3. Y Naturiaethwr, cylchrawn Cymdeithas Edward Llwyd
  4. Cyfres Enwau Creaduriaid a Phlanhigion: 3 Gwyfynod, Glöynod Byw a Gweision Neidr, 2009 (Cymdeithas Edward Llwyd)
  5. https://www.facebook.com/groups/CymunedLlenNatur/permalink/1155288997999735/
  6. Steffan ab Owain, (Archifydd), Blaenau Ffestiniog, ebost personol i DB
  7. Pili Pala (Awst 1982) Cynefin: Cylchgrawn Natur i'r teulu
  8. Lewington, Richard (2003) Pocket Guide to the Butterflies of Great Britain and Ireland, British Wildlife Publishing, Hampshire

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: