Trychineb Abercarn, 1878
Trychineb Abercarn yw'r trydydd trychineb gwaethaf yn hanes Cymru, pan laddwyd 268 o weithwyr ar 11 Medi 1878 yng Nglofa'r Prince of Wales, Abercarn, tref fechan a chymuned ym mwrdeistref sirol Caerffili.
Glofa Tywysog Cymru cyn 1878 | |
Enghraifft o'r canlynol | ffrwydrad mewn mwynglawdd, trychineb |
---|---|
Dyddiad | 11 Medi 1878 |
Lladdwyd | 268 |
Gwlad | Cymru |
Lleoliad | Aber-carn |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Achoswyd y drychineb gan lamp ddiogelwch a gynheuodd ffrwydrad enfawr yn y pwll glo. Roedd 325 o weithwyr o dan y ddaear ar y pryd, ac anfonwyd timau achub i'r pwll i chwilio am oroeswyr yng nghanol y mwg, y fflamau a'r rwbel.[1] Bu farw tua 268 o ddynion a bechgyn yn y trychineb, a phenderfynwyd cau'r siafft, gan ei gorlifo â dŵr i ddiffodd y fflamau. O ganlyniad, arhosodd cyrff y rhai a fu farw yn y digwyddiad o dan y ddaear. Heddiw fe'u cofir yn lleol gyda charreg goffa ym mynwent Abercarn a olwyn fawr y pwll a murlun efydd ar safle'r trychineb.
Yn hanesyddol, mae'r ardal yn gysylltiedig â gweithfeydd dur a phlat tun hefyd yn ogystal â Chymoedd De Cymru, ond mae rhain i gyd wedi cau erbyn hyn.
Perchnogion
golyguY cwmni 'Darby Brown and Company' oedd perchnogion y lofa erbyn 1859.[2] Prynwyd y lofa gan 'The Ebbw Vale and Co Ltd' yn 1862 gan ychwanegu siafft arall. Ceuwyd y pwll am 5 mlynedd; fe'i ailagorwyd yn 1882, gan berchnogion newydd: 'Abercarn Coal Company'. Erbyn 1908 perchenogion y lofa oedd 'Elled Coal Co' - un o is-gwmniau 'The Ebbw Vale and Co Ltd'.
Nid oes tystiolaeth i'r cwmni gael ei erlyn wedi'r drychineb. Casglwyd £65,000 mewn apel genedlaethol, ond er hyn, ni dderbyniodd y gweddwon ddim mwy na 12 ceiniog a dima yr wythnos o gymorth.[3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ www.thenational.wales arlein;[dolen farw] adalwyd 22 Tachwedd 2021.
- ↑ welshcoalmines.co.uk; adalwyd 11 Medi 2024.
- ↑ nmrs.org.uk; adalwyd 11 Medi 2024.