Aber-carn

cymuned a thref fechan ym mwrdeistref sirol Caerffili

Thref fechan a chymuned ym mwrdeistref sirol Caerffili, Cymru, yw Aber-carn[1] neu Abercarn.[2] Saif 10 milltir (16 km) i'r gogledd orllewin o Gasnewydd ar ffordd yr A467 rhwng Cwmcarn a Threcelyn. Fe'i lleolir yn sir hanesyddol Sir Fynwy.

Aber-carn
Cofeb diweddar i'r 268 o lowyr a fu farw yn y lofa ar 11 Medi 1878
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,352, 5,446 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,650.87 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6456°N 3.13447°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000725 Edit this on Wikidata
Cod OSST216947 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhianon Passmore (Llafur)
AS/au y DURuth Jones (Llafur)
Map

Roedd poblogaeth o 4793 yn ystod cyfrifiad 2001.[3]

Mae'r dref yn gorwedd yng nghanol dyffryn Afon Ebwy, ar ymyl de-ddwyreiniol ardal mwyngloddio Morgannwg a Sir Fynwy. Mae Caerdydd 18.2 km i ffwrdd o Abercarn ac mae Llundain yn 210.4 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 11.6 km i ffwrdd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Ruth Jones (Llafur).[5]

Trychineb Abercarn, 1878

golygu

Yn hanesyddol, mae'r ardal yn gysylltiedig â maes glo De Cymru, gweithfeydd dur a phlat tun a Chymoedd De Cymru, ond mae rhain i gyd wedi cau erbyn hyn. Yma y safodd Glofa'r Prince of Wales, lle bu'r trydydd trychineb gwaethaf yn hanes Cymru, pan laddwyd 268 o weithwyr ar 11 Medi 1878.

Achoswyd trychineb Abercarn ar 11 Medi 1878, gan lamp ddiogelwch, gan gynnau ffrwydrad enfawr yn y pwll glo. Roedd 325 o weithwyr o dan y ddaear ar y pryd, ac anfonwyd timau achub i'r pwll i chwilio am oroeswyr yng nghanol y mwg, y fflamau a'r rwbel.[6] Bu farw tua 268 o ddynion a bechgyn yn y trychineb, a phenderfynwyd cau'r siafft, gan ei gorlifo â dŵr i ddiffodd y fflamau. O ganlyniad, arhosodd cyrff y rhai a fu farw yn y digwyddiad o dan y ddaear. Heddiw fe'u cofir yn lleol gyda charreg goffa ym mynwent Abercarn a olwyn fawr y pwll a murlun efydd ar safle'r trychineb.

 
Glofa Tywysog Cymru cyn 1878

Roedd yn rhan o blwyf hynafol Mynyddislwyn tan yn hwyr yn y 19eg ganrif. Ffurfiwyd bwrdd iechyd ac ardal llywodraeth leol Abercarn ym 1892.[7] Trodd hwn yn ardal trefol Abercarn ym 1894, o dan lywodraeth cyngor lleol gyda 12 o gynghorwyr, ac roedd yr ardal drefol yn cynnwys Crymlyn a Threcelyn. Diddymwyd yn 1974 o dan Ddeddf Llywodraeth Lleol 1972, gan ddod yn rhan o fwrdeistref Islwyn, Gwent. Daeth yn rhan o fwrdeistref sirol Caerffili yn dilyn ad-drefnu 1996.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10][11]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Abercarn (pob oed) (5,352)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Abercarn) (600)
  
11.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Abercarn) (4680)
  
87.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Abercarn) (776)
  
34.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Chwaraeon

golygu

Mae Abercarn yn gartref i Abercarn RFC, sy'n aelod o Undeb Rygbi Cymru.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
  3. (Saesneg) Office for National Statistics Parish Headcounts: Abercarn Archifwyd 2014-03-13 yn y Peiriant Wayback
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. [https://www.thenational.wales/news/19570846.remembering-abercarn-mining-disaster-1878/[dolen farw] www.thenational.wales arlein; adalwyd 22 Tachwedd 2021.
  7. Ffurfiwyd o dan enw Trecelyn ar 17 Mawrth 1892, ailenwyd yn Abercarn ar 4 Gorffennaf yr un flwyddyn. Adroddiad Cyfrifiad y Sir 1970, (yr hen Sir Fynwy)
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  11. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolen allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu