Gwefan rwydweithio cymdeithasol a meicro-flogio yw Twitter (weithiau Trydar mewn Cymraeg answyddogol), sy'n gadael i'w defnyddwyr anfon a darllen negeseuon defnyddwyr eraill (a elwir yn tweets yn y Saesneg), sef pytiau bach o destun o 140 nod neu lai. Arddangosir y negeseuon ar dudalen broffil yr awdur a chânt eu dosbarthu i danysgrifwyr yr awdur a elwir yn ddilynwyr. Gall yr awdur gyfyngu ar bwy sy'n gweld ei negeseuon, neu gall ganiatáu i bawb eu gweld. Ers diwedd 2009, gall defnyddwyr ddilyn rhestrau o awduron yn hytrach na dilyn awduron unigol.[1] Gall pob defnyddiwr drydar/switian ar wefan Twitter, negeseuon testun, neu raglen allanol. Er bod y gwasanaeth ei hun yn rhad ac am ddim, gall defnyddio'r gwasanaeth drwy neges destun gostio pris yr alwad ffôn.
![]() | |
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, meicroflogio, ap ffôn ![]() |
Crëwr | Jack Dorsey ![]() |
Cyhoeddwr | Twitter, Inc. ![]() |
Iaith | ieithoedd lluosog ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 21 Mawrth 2006 ![]() |
Perchennog | X Corp. ![]() |
Gweithredwr | Twitter, Inc., X Corp. ![]() |
Sylfaenydd | Jack Dorsey, Noah Glass, Biz Stone, Evan Williams ![]() |
Cynnyrch | meicroflogio ![]() |
Pencadlys | San Francisco ![]() |
Enw brodorol | Twitter ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Dosbarthydd | App Store, Google Play ![]() |
Gwefan | https://twitter.com ![]() |
![]() |
Ers i'r gwasanaeth gael ei greu yn 2006 gan Jack Dorsey, mae enwogrwydd a phoblogrwydd Twitter wedi'i gynyddu'n fyd-eang. Weithiau caiff ei ddisgrifio fel "negeseuon testun y rhyngrwyd".[2]
Mae gan Wici Cymru gyfri trydar (@WiciCymru) sy'n ymgyrchu dros ryddhau gwybodaeth ar drwydded agored ac yn cefnogi prosiect Wicimedia, gan gynnwys y Wicipedia. Ceir hefyd @Wicipedia - sy'n drydariad awtomatig, sy'n hysbysu ei ddilynwyr o erthyglau newydd.
HashnodGolygu
Mae Twitter, a defnydd o Twitter, wedi poblogeiddio'r arfer o roi hashnod cyn gair neu dalfyriad er mwyn creu cymuned o ddiddordeb o gylch pwnc neu ddigwyddiad benodol. Mae'r defnydd o'r hashnod hefyd wedi ei ddefnyddio i boblogeiddio ymgyrchoedd gwleidyddol yn ogysal â hybu busnes. Yn y Gymraeg, yr hashnod gyson mwyaf poblogaidd ei ddefnydd yw hashnod #yagym ('Yr Awr Gymraeg') a weinyddir gan gyfrif @YrAwrGymraeg gan Huw Marshall. Nid oes modd defnyddio marciau atalnodi fel symbolau yr ebychnod fel rhan o'r gair yn yr hashnod.
Gweler hefydGolygu
FfynonellauGolygu
- ↑ There's a List for That blog.twitter.com. 30 Hydref 2009. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010
- ↑ Swine flu's tweet tweet causes online flutter 29 Ebrill 2009. Leslie D'Monte. Business Standard. Adalwyd ar 29 Mai 2009
Dolenni allanolGolygu
- Gwefan Twitter
- Umap Cymraeg Archifwyd 2011-08-24 yn y Peiriant Wayback. Hidlydd sy'n casglu ac arddangos trydariadau Cymraeg yn unig
- Indigenoust Tweets Hidlydd sy'n dilyn y defnydd o ieithoedd lleiafrifol ar Twitter