Agor y brif ddewislen

Sant Cymreig oedd Tydecho (fl. 6g). Roedd yn nawddsant cwmwd Mawddwy (Teyrnas Powys gynt; Gwynedd heddiw). Dethlir ei wylmabsant ar 17 Rhagfyr.

Hanes a thraddodiadGolygu

Ychydig iawn a wyddom amdano. Ein prif ffynhonnell yw'r cywydd iddo gan y brudiwr enwog Dafydd Llwyd o Fathafarn, Mawddwy. Dywed y bardd i'r sant ymsefydlu yng nghyffiniau Mathafarn a chodi cell yno. Cofnodir y gerdd y traddodiad fod y brenin Maelgwn Gwynedd wedi aflonyddu arno a'i ddilynwyr, ond gan fod hyn yn wir am hanes rhai o'r seintiau cynnar eraill hefyd ni ellir rhoi gormod o bwyslais arno.[1]

Yn ôl traddodiad, roedd yn fab i Annwn Ddu ab Emyr Llydaw. Cyfeirir ato hefyd ym Muchedd Padarn, ond heb ychwanegu llawer at y wybodaeth amdano. Ymddengys, yn ôl dosbarthiad yr eglwysi a gysegrir iddo, fod y sant a'i gymdeithion wedi cyrraedd arfordir Meirionnydd dros y môr ac iddynt dreiddio i'r tir ac ymsefydlu yn ardal Mawddwy.[1]

EglwysiGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 W. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn (Gwasg Prifysgol Cymru, 1964).