Tysilio
sant Celtaidd
Sant Cymreig o'r 7g oedd Tysilio. Yn ôl traddodiad roedd yn un o feibion Brochwel Ysgithrog, brenin Teyrnas Powys.[1] Ei wylmasant traddodiadol yw 9 Tachwedd.
Tysilio | |
---|---|
Ganwyd | 6 g Teyrnas Powys |
Bu farw | 640 |
Man preswyl | Powys |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | abad |
Dydd gŵyl | 8 Tachwedd |
Tad | Brochwel Ysgithrog |
Hanes a thraddodiad
golyguDywedi iddo ddod yn ddisgybl i Gwyddfarch, abad cyntaf Meifod. Dilynodd Gwyddfarch fel abad yma, a daeth Meifod yn brif ganolfan grefyddol Powys.[1]
Sefydliadau
golyguEnwir Ynys Dysilio yn Afon Menai ger Porthaethwy ar ei ôl, a chysegrir yr eglwys fechan ar yr ynys iddo; mae'n rhan o blwyf eglwysig Llandysilio. Yn ôl traddodiad roedd gan y sant gell feudwy ar yr ynys. Cysegrwyd eglwysi Meifod a Llangamarch iddo.
Mae lleoedd sy'n dwyn ei enw yn cynnwys:
- Llandysilio, Sir Benfro
- Llandysilio, Powys
- Llandysilio-yn-Iâl, Sir Ddinbych
- Llandysiliogogo, Ceredigion
- Llandysilio, Ynys Môn
Cof
golyguEi ddydd gŵyl yw 8 Tachwedd.
Canodd Cynddelw Brydydd Mawr awdl foliant iddo yn y 12g.[2]