Uchel Ddugiaeth Toscana
Gwladwriaeth yng nghanolbarth yr Eidal oedd Uchel Ddugiaeth Toscana (Eidaleg: Granducato di Toscana, Lladin: Magnus Ducatus Etruriae) a fodolai o 1569 i 1860, ac eithrio'r cyfnod 1801–15 yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. Roedd ei thiriogaeth yn cyfateb i raddau helaeth â rhanbarth Toscana heddiw. Fflorens oedd prifddinas yr uchel ddugiaeth trwy gydol ei hoes.[1]
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Fflorens |
Poblogaeth | 1,096,641 |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | yr Eidal |
Yn ffinio gyda | Dugiaeth Modena a Reggio |
Cyfesurynnau | 43°N 11°E |
Sefydlwydwyd gan | Cosimo I de' Medici, Grand Duke of Tuscany |
Arian | Tuscan pound, Tuscan florin |
Rhagflaenydd yr uchel ddugiaeth oedd Dugiaeth Fflorens, a ehangodd ei thiriogaeth dan arweiniad y Dug Cosimo I de' Medici.[2] Dyrchafwyd Cosimo yn Uchel Ddug Toscana gan y Pab Pïws V ym 1569, a byddai teulu'r Medici yn teyrnasu ar Toscana nes dechrau'r 18g.
Yr olaf o frenhinllin y Medici oedd Gian Gastone, a fu farw heb etifedd ym 1737. Yn ôl Cytundeb Fienna (1738), bu'n rhaid i Ffransis Steffan o Dŷ Hapsbwrg-Lorraine ildio Dugiaeth Lorraine i Stanisław Leszczyński, wedi i'r hwnnw golli ei goron yn Rhyfel Olyniaeth Gwlad Pwyl (1733−35). Derbyniodd Toscana yn iawndal, ac felly olynwyd Gian Gastone gan yr Uchel Ddug Ffransis Steffan, neu Francesco Stefano yn Eidaleg. Trwy reolaeth Ffransis, a ddaeth hefyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig ym 1745, daeth Toscana yn rhan o'r Ymerodraeth Hapsbwrgaidd.
Yn sgil buddugoliaeth Napoleon Bonaparte yn erbyn y Glymblaid yn ystod Rhyfeloedd Chwyldroadol Ffrainc, daeth gogledd a chanolbarth yr Eidal dan dra-arglwyddiaeth y Ffrancod. O ganlyniad i Gytundeb Aranjuez (1801), a arwyddwyd gan Ffrainc a Sbaen, diddymwyd Uchel Ddugiaeth Toscana a sefydlwyd Teyrnas Etruria, un o wladwriaethau dibynnol Ffrainc, yn ei lle.[3] Diddymwyd yr honno yn ei thro ym 1807, a daeth Toscana yn rhan o Ymerodraeth Ffrainc. Wedi cwymp Napoleon, adferwyd Uchel Ddugiaeth Toscana gan Gyngres Fienna ym 1815, gyda Thŷ Hapsbwrg-Lorraine unwaith eto yn teyrnasu.
Yn haf 1859, wedi Ail Ryfel Annibyniaeth yr Eidal, meddianwyd y rhan fwyaf o diriogaeth yr uchel ddugiaeth gan fyddin Vittorio Emanuele II, Brenin Sardinia, a diorseddwyd yr Hapsbwrgiaid yn Toscana. Yn Rhagfyr, unodd â dugiaethau Modena a Reggio a Parma a Piacenza i ffurfio Taleithiau Unedig Canolbarth yr Eidal. Meddianwyd yr undeb hwnnw gan Sardinia ym Mawrth 1860, a chynhaliwyd refferendwm i gyfeddiannu'r diriogaeth yn ffurfiol i Deyrnas yr Eidal fel rhan o'r Risorgimento.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Strathern, Paul (2003). The Medici: Godfathers of the Renaissance. Llundain: Vintage. ISBN 978-0-09-952297-3. tt. 315–321 (Saesneg)
- ↑ "Cosimo I | duke of Florence and Tuscany [1519–1574]". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Chwefror 2021.
- ↑ H. A. L. Fisher, "The French Dependencies and Switzerland", in A. Ward et al. (eds.), Cambridge Modern History, IX: Napoleon (Cambridge, 1934), p. 399.