Ffransis I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg-Lorraine oedd Ffransis I (8 Rhagfyr 1708 – 18 Awst 1765) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1745 i 1765, yn Archddug Awstria o 1740 i 1765, yn Uchel Ddug Toscana o 1737 i 1765, ac yn Ddug Lorraine o 1729 i 1735.
Ffransis I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig | |
---|---|
Ganwyd | 8 Rhagfyr 1708 Nancy |
Bu farw | 18 Awst 1765 Innsbruck |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Galwedigaeth | pendefig, casglu darnau arian, gwleidydd |
Swydd | Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Palatine of Hungary |
Tad | Leopold |
Mam | Élisabeth Charlotte d'Orléans |
Priod | Maria Theresa |
Plant | Leopold II, Archduchess Maria Carolina of Austria, Archduke Maximilian Francis of Austria |
Llinach | House of Lorraine, Tŷ Hapsbwrg-Lorraine |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd y Cnu Aur, Order of Maria Theresa I |
llofnod |
Ganed yn Nancy, Dugiaeth Lorraine. Ym 1723 symudodd i lys Fienna ac yno priododd â Maria Theresa, merch yr Ymerawdwr Siarl VI, ar 12 Chwefror 1736. Yn ôl Cytundeb Fienna (1738), bu'n rhaid i Ffransis ildio Dugiaeth Lorraine i Stanisław Leszczyński, wedi iddo golli ei goron yn Rhyfel Olyniaeth Gwlad Pwyl (1733−35). Derbyniodd Ffransis Uchel Ddugiaeth Toscana yn iawndal, gan olynu Gian Gastone, yr un olaf o linach y Medici i ddwyn y teitl hwnnw.[1]
Yn sgil marwolaeth Siarl VI yn Hydref 1740, penodwyd Ffransis yn gyd-raglyw gan ei wraig. Er gwaethaf, gwrthwynebwyd hawl Maria Theresa i'r goron gan sawl ymhonnwr yn Rhyfel Olyniaeth Awstria (1740–8). Wedi marwolaeth Siarl VII, etholwyd Ffransis yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig ar 13 Medi 1745. Bu farw yn Innsbruck yn 56 oed, a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei fab Joseff II.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Francis I (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Mai 2020.
Rhagflaenydd: Siarl VII |
Ymerawdwr Glân Rhufeinig 1745 – 1765 |
Olynydd: Joseff II |