Ullswater
Llyn ail fwyaf yn Ardal y Llynnoedd, Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Ullswater, a leolir ger pentrefi Glenridding a Pooley Bridge. Mae ganddo hyd o 9 milltir (14.5 km), lled o 0.75 milltir (1,200 m) a dyfnder o tua 60 metr (197 troedfedd) yn ei ran ddyfnaf. Mae'r llyn yn boblogaidd iawn gan dwristiaid a gellir dringo sawl mynydd o Glenridding a Pooley Bridge, ar lan y llyn, yn cynnwys Helvellyn ac Arthur's Pike.
Math | ribbon lake |
---|---|
Ardal weinyddol | Cumbria |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd |
Sir | Cumbria (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 8.9 km² |
Uwch y môr | 144 metr |
Cyfesurynnau | 54.5719°N 2.9005°W |
Cod OS | NY42532043 |
Hyd | 11.8 cilometr |
Rheolir gan | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Cadwyn fynydd | Ardal y Llynnoedd, Lloegr |
Perchnogaeth | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Mae'r enw Ullswater o darddiad Norseg ond mae union ystyr Ull yn ansicr.
Ger Pooley Bridge ar lan ddwyreiniol y llyn ceir tŷ Eusemere, a fu'n gartref yr ymgyrchydd yn erbyn caethwasanaeth Thomas Clarkson (1760–1846). Ymwelai'r bardd William Wordsworth a'i chwaer Dorothy â'u cyfaill ar sawl achlysur. Ar ôl ymweliad yn Ebrill 1802, ysbrydolwyd Wordsworth i sgwennu un o'i gerddi mwyaf adnabyddus, "Daffodils", ar ôl gweld cennin pedr gwyllt yn tyfu ar lan Ullswater ar ei ffordd yn ôl i Grasmere.