Uwcheglwys San Bened

Uwcheglwys San Bened Paul's Wharf yw'r eglwys Gymreig yn Llundain (yn swyddogol, Eglwys Gymreig brif ddinesig Esgobaeth Llundain). Lleolir hi yn Ninas Llundain, nid ymhell o Eglwys Gadeiriol Sant Paul a Phont y Mileniwm.

Uwcheglwys San Bened
St Benet Paul's Wharf (14358111132).jpg
Matheglwys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBened o Nursia Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Llundain
Sefydlwyd
  • 1677 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.5117°N 0.0993°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ3200080907 Edit this on Wikidata
Arddull pensaernïolBaróc Seisnig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iBened o Nursia Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethEsgobaeth Llundain Edit this on Wikidata

Sefydlwyd eglwys ar y safle yn y 12fed ganrif, wedi ei gysegru i fynach Eidalaidd o'r 6ed ganrif, Bened, sy'n ffurf arall ar Benedict. Yn dilyn Tân Mawr Llundain ym 1666, yr oedd yn un o'r eglwysi a ail-godwyd gan y pensaer enwog Syr Christopher Wren. Mae hyd yn oed yn fwy arbennig gan ei bod yn un o adeiladau prin Wren a lwyddodd i osgoi difrod yn sgil bomio o'r Ail Ryfel Byd (1939-45). Felly, mae'n parhau, yn fwy neu lai, yn yr un cyflwr fel y'i hadeiladwyd o 1677 hyd 1683. Mae dylanwad o'r Iseldiroedd ar ei phensaernïaeth.

PensaerniaethGolygu

O'r tu allan, gwelir bod yr eglwys wedi ei hadeiladu o friciau coch, sy'n anarferol i adeiladau Wren, gyda chonglfeini o garreg. Mae ganddi dalcendo ar yr ochr ogleddol a swagiau o garreg uwch yn ffenestri. Mae'n debygol iawn y cynhwysodd Wren elfennau waliau o'r adeilad gwreiddiol yn yr un newydd, yn enwedig yn y tŵr. Ar ben y tŵr mae coron grom a cheiliog gwynt.

Mae'r tu mewn i'r eglwys fwy neu lai yn siâp sgwâr, gydag un oriel ac yr ochr ogleddol ac un arall ar yr ochr orllewinol ger y tŵr. Yn rhan o addurniadau gwreiddiol yr eglwys mae'r Reredos, yr Allor a'i rheiliau, y Pulpud, y Bedyddfaen a'r Gorchudd. Ceir ffrâm drws unigryw wedi ei gerfio, gydag Arfbais Stiward uchben y drws. Dywedir i'r Arfbais gael ei roi gan Siarl II i'r eglwys. Rhoddwyd y mwyafrif o'r dodrefn i'r eglwys gan Syr Leoline Jenkins, un o brif weinidogion Siarl II.

FandaliaethGolygu

Cafodd yr eglwys ei niweidio 1af Hydref 1971 gan fandaliaid. Yr oedd y difrod gwaethaf wedi ei gyfyngu i gornel gogledd-orllewin yr eglwys, ond cafodd y cyfanrwydd o'r tu mewn ei heffeithio gan y gwres. Wedi adferiad, cafodd yr eglwys ei hail-agor 18fed Mai 1973 gyda gwasanaeth o ddiolchgarwch.

HanesGolygu

Yr oedd San Bened yn eglwys blwyf i Gyffredin y Doctoriaid (hefyd Coleg y Sifiliaid). Yr oedd ei agosrwydd i'r sefydliad cyfreithiol hwn yn golygu ei fod yn gallu cynnig priodasau ar fyr-rybudd. Rhwng 1708 a 1731, bu 13,423 priodas. Cyn colli ei statws plwyfol, yr oedd San Bened yn eglwys blwyf i Goleg yr Arfau, gyda nifer o'r cerrig goffa i gyn swyddogion y coleg.

Yr oedd Cofnodion Plwyf San Bened Paul's Wharf a San Pedr Paul's Wharf yn cael eu rhwymo gan y Gymdeithas Harleiaidd ar ddechrau'r 20fed ganrif, ond bellach fe'u cedwir yn Llyfrgell y Guildhall. Cafodd eglwys San Pedr Paul's Wharf ei ddifa'n Tân Mawr Llundain. Ni chafodd ei ail-adeiladu ac fe'i hunwyd â San Bened.

Yr Achos GymreigGolygu

San Bened yw'r Eglwys Gymreig Metropolitaidd. Cyn belled yn ôl a'r 17eg a'r 18fed ganrif, yr oedd Anglicaniaid Cymreig yn trefnu gwasanaethau Cymraeg o bryd i'w gilydd, pryd bynnag yr oedd Offeiriad ar gael. Ceir cofnod o wasanaeth o'r fath yn cael ei gynnal yn Sant Paul, Covent Garden yn 1715. Gwelir bod ysfa i gael eglwys i'w hunain gyda gwasanaethau Gweddi Gyffredin reolaidd yn yr iaith Gymraeg. Ceir trafodaeth am hyn yn The Record, cyhoeddiad wythnosol yr eglwys, yn yr 1830au.

Gyda chefnogaeth Arglwydd Powis a bargyfreithiwr Cymreig William Jones, derbyniwyd eglwys San Etheldreda, yn Ely Place, Holborn, gan y Gymdeithas Genedlaethol i ddefnydd Anglicaniaid Cymreig. Y rhent oedd £105 y flwyddyn a phenodwyd Offeiriad llawn-amser. Parhaodd yr achos yn San Etheldreda hyd 1876, pan werthwyd yr adeilad trwy ocsiwn cyhoeddus. Methodd y gynulleidfa i brynu'r eglwys, ond caniataodd ficer St. Nicholas Cole Abbey y gynulleidfa i ddefnyddio'i eglwys am un gwasanaeth pob Sul.

Ar yr adeg hon, yr oedd trefniadau i sawl eglwys yn ninas Llundain gael ei ddymchwel; un ohonynt oedd San Bened. Yr oedd yr Offeiriad a oedd yn gyfrifol am San Bened wedi ennyn cefnogaeth bod yr eglwys ddim yn cael ei ddymchwel ac yn cael ei roi i'r gynulleidfa Gymreig. Cafodd Gorchymyn mewn Cyngor ei arwyddo gan y Frenhines Victoria, i achub yr eglwys rhag cael ei ddymchwel, a'i roi i'r Anglicaniaid Cymreig i gynnal gwasanaeth yn ôl rheolau Eglwys Lloegr, am byth.

Cynhaliwyd y gwasanaeth Cymraeg gyntaf yn 1879, ac maent wedi parhau hyd heddiw. Yr oedd yr Eglwys yng Nghymru Anglicanaidd yn rhan o Dalaith Caergaint (Province of Cantebury) hyd nes ei ddatgysylltiad yn 1920. gyda Deddf Eglwys Cymru. Yr oedd llawer o wrthwynebiad i'r ddeddf, gydag esgobion pedwar esgobaeth Cymru - Llanelwy, Bangor, Tŷ Ddewi a Llandaf - yn dod i Lundain ar yr un pryd i fynegi eu hanghymeradwyaeth. Aeth y pedwar esgob i wasanaeth y Cymun Sanctaidd yn San Bened, gyda'u llofnodion i'w gweld ar gofnodion yr eglwys.

Mae San Bened yn parhau i fod yn rhan o Eglwys Lloegr yn Esgobaeth Llundain. Yn 1954, yn dilyn aildrefnu eglwysi a phlwyfi Dinas Llundain, daeth San Bened yn un o Eglwysi City Guild.

EnwogionGolygu

Claddwyd y pensaer Inigo Jones, a oedd o dras Gymreig, yn San Bened ym 1652.

Cyfeirwyd at San Bened yn drama William Shakespeare, Nos Ystwyll, Act V, Golygfa 1.

"Primo, secundo, tertio, is a good play;

and the old saying is, 'the third pays for all':

the triplex, sir, is a good tripping measure; or

the bells of Saint Bennet, sir, may put you in

mind; one, two, three.

  Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.