Uwchgynhadledd NATO, 2024

Cynhaliwyd 34ain Uwchgynhadledd NATO o Ddydd Mawrth 9 Gorffennaf i Ddydd Iau 11 Gorffennaf 2023 yn Washington, D.C., prifddinas Unol Daleithiau America. Nodai 75 mlynedd ers sefydlu'r cynghrair milwrol gan Gytundeb Gogledd yr Iwerydd ym 1949.

Uwchgynhadledd NATO, 2024
Enghraifft o'r canlynolNATO summit Edit this on Wikidata
Dechreuwyd9 Gorffennaf 2024 Edit this on Wikidata
Daeth i ben11 Gorffennaf 2024 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan2023 Vilnius summit Edit this on Wikidata
Olynwyd gan2025 The Hague summit Edit this on Wikidata
LleoliadWashington Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ogystal â phennau aelod-wladwriaethau NATO, gwahoddwyd hefyd gweinidogion tramor Armenia, Aserbaijan, a Georgia, dirprwy brif weinidog Awstralia, prif weinidogion Japan a Seland Newydd, arlywyddion De Corea ac Wcráin, ac i gynrychioli'r Undeb Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, a Charles Michel, Arlywydd y Cyngor Ewropeaidd. Hon oedd yr uwchgynhadledd gyntaf ers i Sweden ymaelodi â NATO ym Mawrth 2024, a'r uwchgynhadledd olaf i'w chadeirio gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol Jens Stoltenberg. Hon oedd yr uwchgynhadledd gyntaf i'w mynychu gan Keir Starmer, a benodwyd yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig pedwar diwrnod cyn dechrau'r cyfarfod.

Un o brif ddatblygiadau'r uwchgynhadledd oedd cynllun i ddanfon taflegrau pellgyrhaeddol o'r Unol Daleithiau i'r Almaen am y tro cyntaf ers diwedd y Rhyfel Oer.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Paul Kirby, "US cruise missiles to return to Germany, angering Moscow, BBC (11 Gorffennaf 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Gorffennaf 2024.