Wigwriaid
(Ailgyfeiriad o Uyghur)
Pobl Dyrcig sy'n byw yn Xinjiang, rhanbarth hunanlywodraethol o fewn Gweriniaeth Pobl Tsieina, yw'r Wigwriaid.[1] Mae tua 31.4 miliwn ohonynt i gyd, 28.82 miliwn o'r rhain yn Xinjiang, lle maent yn ffurfio 45% o'r boblogaeth. Siaradant Wigwreg, sy'n un o'r ieithoedd Twrcaidd, ac maent yn ddilynwyr Islam o ran crefydd.
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Math | Pobl Twrcaidd |
Mamiaith | Uyghur, tsieineeg |
Poblogaeth | 12,314,800 |
Crefydd | Swnni |
Rhan o | Pobl Twrcaidd |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Pobl Tsieina, Casachstan, Cirgistan, Wsbecistan, Rwsia, Tyrcmenistan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir mudiad cenedlaethol ymhlith yr Wigwriaid sy'n anelu at annibyniaeth i Xinjiang dan yr enw Dwyrain Tyrcestan. Yn y blynyddoedd diwethaf, mewnfudodd nifer fawr o Tsieineaid Han i Xinjiang, a bu cryn dipyn o dyndra ethnig rhyngddynt hwy a'r Wigwriaid, gydag ymladd ar y strydoedd ym mis Gorffennaf 2009. Maent yn dioddef hil-laddiad o dan reolaeth China.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [Uighur, Uigur].