Hil-laddiad yr Wigwriaid

Ymgyrch o gamdriniaethau hawliau dynol yn erbyn yr Wigwriaid, pobl Dyrcig Fwslimaidd sydd yn frodorol i Xinjiang, gan lywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina yw hil-laddiad yr Wigwriaid.

Hil-laddiad yr Wigwriaid
Enghraifft o'r canlynolhil-laddiad diwylliannol, ymgyrch wleidyddol, erlid crefyddol, hil-laddiad ethnig, settler colonialism Edit this on Wikidata
Dyddiad21 g Edit this on Wikidata
Rhan oXinjiang conflict, sinicization Edit this on Wikidata
Dechreuwyd2014 Edit this on Wikidata
LleoliadXinjiang Edit this on Wikidata
GwladwriaethGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o Weriniaeth Pobl Tsieina gyda Xinjiang mewn lliw coch.
Protestwyr gyda Baner Dwyrain Tyrcestan o flaen pencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd

Cyd-destun golygu

Ers 2014, mae llywodraeth Xi Jinping, Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Tsieina, wedi gorfodi polisïau sydd wedi carcharu rhyw un miliwn o Fwslimiaid mewn gwersylloedd cadw heb unrhyw broses gyfreithiol.[1][2][3] Wigwriaid ydy'r mwyafrif ohonynt, ond maent hefyd yn cynnwys Casachiaid, Cirgisiaid, a phobloedd Dyrcig eraill. Ni fu carcharu torfol o leiafrifoedd ethnig a chrefyddol ar y raddfa hon ers yr Ail Ryfel Byd.[4][5] Dinistriwyd miloedd o fosgiau, a chipiwyd cannoedd o filoedd o blant oddi ar eu rhieni er mwyn eu danfon i ysgolion preswyl.[6][7][8]

Modd yr Hil-laddiad golygu

Nod honedig Tsieina yw gwrthderfysgaeth: dywed bod mesurau llym yn angenrheidiol er mwyn gostegu Islamiaeth yn yr ardal ac i ddod â therfyn i'r gwrthdaro yn Xinjiang. Gelwir y gwersylloedd cadw yn swyddogol yn "ganolfannau addysg ac hyfforddiant galwedigaethol". Yn ymarferol, mae'r llywodraeth yn gorfodi Tsieineiddio, Islamoffobia, a gormes gwleidyddol ar raddfa eang. Mae polisïau'r llywodraeth yn cynnwys carcharu heb broses ffurfiol mewn gwersylloedd cadw,[9][10] llafur gorfodol,[11][12] atal arferion crefyddol yr Wigwriaid,[13] indoctroneiddio gwleidyddol,[14] a chyfyngu ar gael plant trwy sterileiddio,[15] dulliau atal cenhedlu[16] ac erthylu gorfodol.[17][18] Yn ôl ystadegau llywodraeth Tsieina, o 2015 i 2018 gostyngodd y gyfradd geni yn ardaloedd Hotan a Kashgar—y ddwy'n gartref i boblogaeth Wigwraidd yn bennaf—yn uwch na 60%,[15] o'i chymharu â gostyngiad o 10% ar gyfer poblogaeth yr holl wlad yn yr un cyfnod.[19] Er i swyddogion y llywodraeth yn Xinjiang gydnabod y cwymp syfrdanol yn y gyfradd geni, gwrthodasant y cyhuddiadau o anffrwythloni'r boblogaeth ac hil-laddiad.[20]

Cymhathiad bwriadol golygu

Ar y cychwyn, câi'r mesurau hyn eu disgrifio fel polisi o gymhathu gorfodol yn Xinjiang, ac fel ethnoladdiad neu hil-laddiad diwylliannol.[21] Wrth i ragor o fanylion ddod i'r amlwg, rhoddwyd yr enw hil-laddiad arni gan lywodraethau, ymgyrchwyr, sefydliadau anllywodraethol, arbenigwyr hawliau dynol, academyddion, a llywodraeth alltud Dwyrain Tyrcestan, gan gyfeirio at ddiffiniad y Cytundeb Hil-laddiad.[22][23]

Ymateb Ryngwladol golygu

Mae'r ymateb rhyngwladol i'r sefyllfa yn Xinjiang wedi amrywio. Cyflwynwyd datganiadau yn condemnio Tsieina i Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig gan rai wladwriaethau, tra'r oedd llywodraethau eraill yn cefnogi'r polisïau yn gyhoeddus. Yn Rhagfyr 2020, gwrthododd y Llys Troseddol Rhyngwladol i archwilio Tsieina oherwydd diffyg awdurdodaeth gyfreithiol. Ar 19 Ionawr 2021, Unol Daleithiau America oedd y wlad gyntaf i ddatgan bod Tsieina yn gyfrifol am hil-laddiad yn Xinjiang, er i Adran Wladol yr Unol Daleithiau ddod i'r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth i brofi hil-laddiad. Pasiwyd cynigion yn cyhuddo Tsieina o hil-laddiad gan nifer o ddeddfwrfeydd cenedlaethol, gan gynnwys Tŷ'r Cyffredin yng Nghanada, Ystadau Cyffredinol yr Iseldiroedd, Tŷ'r Cyffredin yn y Deyrnas Unedig, a'r Seimas yn Lithwania. Condemniwyd polisïau Tsieina yn erbyn yr Wigwriaid fel "camdriniaethau hawliau dynol difrifol" neu "droseddau yn erbyn dynoliaeth" gan seneddau gwledydd eraill, gan gynnwys Seland Newydd, Gwlad Belg, a'r Weriniaeth Tsiec.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "One million Muslim Uighurs held in secret China camps: UN panel", Al Jazeera (10 Awst 2018). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2021.
  2. (Saesneg) Dylan Welsh, Ariel Bogle, Echo Hui, a Stephen Hutcheon, "The China Cables: Leak reveals the scale of Beijing's repressive control over Xinjiang", ABC News (24 Tachwedd 2019). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Ebrill 2021.
  3. (Saesneg) "UN: Unprecedented Joint Call for China to End Xinjiang Abuses", Human Rights Watch (10 Gorffennaf 2019). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2021.
  4. Joanne Finley, "Why Scholars and Activists Increasingly Fear a Uyghur Genocide in Xinjiang", Journal of Genocide Research 23:3 (Tachwed 2020), tt. 348–70.
  5. (Saesneg) Jen Kirby, "Concentration camps and forced labor: China’s repression of the Uighurs, explained", Vox (25 Medi 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 6 Rhagfyr 2020.
  6. (Saesneg) Raffi Khatchadourian, "Surviving the Crackdown in Xinjiang", The New Yorker (5 Ebrill 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Ebrill 2021.
  7. (Saesneg) Emily Feng, "Uighur children fall victim to China anti-terror drive", Financial Times (10 Gorffennaf 2018), Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Gorffennaf 2018.
  8. Adrian Zenz, "Break Their Roots: Evidence for China’s Parent-Child Separation Campaign in Xinjiang", Journal of Political Risk 7:7 (Gorffennaf 2019). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 25 Mai 2021.
  9. (Saesneg) James Waller a Mariana Salazar Albornoz, "Crime and No Punishment? China's Abuses Against the Uyghurs", Georgetown Journal of International Affairs 22:1 (2021), tt. 100–111.
  10. (Saesneg) Maria Danilova, "Woman describes torture, beatings in Chinese detention camp", Associated Press (27 Tachwedd 2018). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2021.
  11. Rukiye Turdush a Magnus Fiskesjö, "Dossier: Uyghur Women in China's Genocide", Genocide Studies and Prevention: An International Journal 15:1 (28 Mai 2021), tt. 22–43.
  12. (Saesneg) John Sudworth, "China's 'tainted' cotton", BBC (Rhagfyr 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Mawrth 2021.
  13. (Saesneg) "China Primer: Uyghurs", Congressional Research Service (7 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2021.
  14. (Saesneg) "Muslim minority in China's Xinjiang face 'political indoctrination': Human Rights Watch", Reuters (10 Medi 2018). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2021.
  15. 15.0 15.1 (Saesneg) China cuts Uighur births with IUDs, abortion, sterilization, Associated Press (29 Mehefin 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Mehefin 2021.
  16. (Saesneg) Sigal Samuel, "China’s genocide against the Uyghurs, in 4 disturbing charts", Vox (10 Mawrth 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Mawrth 2021.
  17. (Saesneg) "China forcing birth control on Uighurs to suppress population, report says", [[BBC}} (29 Mehefin 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 30 Mehefin 2020.
  18. (Saesneg) "China: Uighur women reportedly sterilized in attempt to suppress population", Deutsche Welle (1 Gorffennaf 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Ionawr 2021.
  19. (Saesneg) "Birth rate, crude (per 1,000 people) - China", Banc y Byd.
  20. (Saesneg) Ivan Watson, Rebecca Wright, a Ben Westcott, "Xinjiang government confirms huge birth rate drop but denies forced sterilization of women", CNN (21 Medi 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Ionawr 2021.
  21. (Saesneg) Adam Withnall, "‘Cultural genocide’: China separating thousands of Muslim children from parents for ‘thought education’", The Independent (5 Gorffennaf 2019). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2021.
  22. (Saesneg) James Lansdale, "Uighurs: 'Credible case' China carrying out genocide", BBC (8 Chwefror 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Chwefror 2021.
  23. (Saesneg) Rebecca Falconer, "Report: "Clear evidence" China is committing genocide against Uyghurs", Axios (9 Mawrth 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Mawrth 2021.