Vélodrome Herne Hill

Vélodrome (lleoliad ar gyfer seiclo trac) yn Stadiwm Herne Hill, Bwrdeistref Llundain Southwark, ydy Vélodrome Herne Hill. Adeiladwyd yn 1891 a defnyddiwyd y trac ar gyfer cystadleaethau seiclo trac Gemau Olympaidd 1948.[1] Defnyddir y trac er mwyn rasio ac ymarfer gan blant a reidwyr proffesiynol hyd heddiw.

Vélodrome Herne Hill
Mathlleoliad chwaraeon Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Llundain Southwark
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.4511°N 0.0914°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethYstâd Dulwich Edit this on Wikidata

Herne Hill yw'r unig drac yn Llundain ers dymchweliad y trac yn y Paddington Recreation Grounds yn 1987, ac hyd i vélodrome newydd gael ei hadeiladu yn Stratford ar gyfer Gemau Olympaidd 2012.

Yr enw gwreiddiol oedd London County Grounds,[2], cymerai ei henw cyfoes o'i lleoliad mewn parc oddiar Burbage Road, yn Herne Hill, rhan o Bwrdeistref Llundain Southwark.

Yn wahanol i veledrome Olympaidd cyfoes, sydd gydacylchedd mewnol o 250 metr a 250m, a bancio o tua 45° bob pen, mae Herne Hill yn fowlen bas concrit sy'n mesur tia 450 metr gyda'r bancio bob pen tua 30° ar ei phwyntiau serthaf.

Defnydd cyfoes golygu

Brwydrodd ymgyrch i gadw'r trac yn ystod y 2000au cynnar yn dilyd dadl rhwng y perchennog, Ystâd Dulwich, a'r prydleswr, Cyngor Southwark. Un o gefnogwyr yr ymgyrch oedd enillydd medal aur yn y Gemau Olympaidd, Bradley Wiggins, a ddechreuodd rasio yn Herne Hill pan oedd ond yn 12 oed.[3]

Mae'r cefnogwyr yn gweld y vélodrome yn chwarae rôl yn cefnogi seiclwyr trac o Lundain yn yr adeg sy'n arwain at Gemau Olymaidd 2012.

Mae Herne Hill yn cynnal sasiynau ymarfel rheolaidd ar gyfer reidwyr ifan, ac bu'n leoliad i gyfarfod Gwener y Groglith a'i threfnwyd gan y Southern Counties Cycle Union ers 1903. Mae pencampwyr y byd wedi cystadlu yn y cyfarfodydd rhain, a bu presenoldeb o 10,000 yn cael eu denu yno yn yr 1920au a'r 1930au.[4] Mae amryw o racordiau cenedlaethol a recordiau'r byd wedi cael eu sefydlu yno, yn nodweddiadol Frank Southall o glwb Norwood Paragon yn hwyr yn yr 1920au a'r 1930au cynnar.

Cysylltiadau Pêl-droed golygu

Yng nghanol y trac mae maes pêl-droed. Roedd y stadiwm yn gartref i Crystal Palace F.C. rhwng 1914 a 1918, pan symudodd y clwb i The Nest, ar ôl iddynt gael eu gorfodi i symyd i'r vélodrome gan yr Admiralty o Stadiwm Pêl-droed Crystal Palace. Y presenoldeb uchaf a'i recordwyd yn Herne Hill oedd 4,987.

Cynhaliwyd rownd derfynol Cwpan Pêl-droed Amatur 1911, rhwng Bromley a Bishop Auckland, yn Herne Hill.[2]

 
Herne Hill Velodrome

Cyfeiriadau golygu

  1. "About Herne Hill Velodrome, VC Londres". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-14. Cyrchwyd 2007-12-07.
  2. 2.0 2.1 The Herne Hill Velodrome - fighting for survival, urban75.org
  3. Looking down from Herne Hill, I can see the future is bright, The Observer, 8 Ebrill 2007
  4. A brighter future for Herne Hill Velodrome? Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback. British Cycling