Vang Pao
Cadfridog ym Myddin Frenhinol y Lao oedd Vang Pao (Hmongeg: Vaj Pov; 8 Rhagfyr 1929 – 6 Ionawr 2011). Ganwyd i deulu Hmong yng ngogledd-orllewin Laos, oedd yn rhan o Indo-Tsieina Ffrengig. Yn ystod Rhyfel Cyntaf Indo-Tsieina brwydrodd dros y Ffrancod yn erbyn gwrthryfelwyr y Việt Minh. Wedi i'r Ffrancod golli daeth Vang yn gadfridog ym Myddin Frenhinol y Lao, byddin Teyrnas Laos. Yn y 1960au a'r 1970au, yn ystod Rhyfel Cartref Laos, arweiniodd Vang y Fyddin Gudd yn erbyn y Pathet Lao gomiwnyddol a Byddin Pobl Fietnam, lluoedd Gogledd Fietnam. Cafodd y Fyddin Gudd gefnogaeth gan y CIA. Wedi i'r comiwnyddion ennill y rhyfel cartref ym 1975, ymfudodd Vang i'r Unol Daleithiau a daeth yn arweinydd y gymuned Hmong-Americanaidd ac yn ymgyrchydd dros y Hmong yn wyneb dial gan lywodraeth Laos. Yn 2007 arestiwyd Vang am gynllwynio i ddymchwel llywodraeth Laos ac felly torri Deddfau Niwtraliaeth yr Unol Daleithiau. Yn 2009 cafodd y cyhuddiadau eu diddymu gan lywodraeth yr Unol Daleithiau. Bu farw yn 2011 o niwmonia.
Vang Pao | |
---|---|
Ganwyd | 8 Rhagfyr 1929 Talaith Xiangkhouang |
Bu farw | 6 Ionawr 2011 Clovis |
Dinasyddiaeth | Laos |
Galwedigaeth | milwr |