Endid gwleidyddol a grëwyd gan Bedwaredd Weriniaeth Ffrainc i ddisodli Ymerodraeth Ffrainc oedd Undeb Ffrainc (Ffrangeg: Union française). Parhaodd o 27 Hydref 1946 hyd 1958 pan gafodd y Gymuned Ffrengig ei sefydlu gan y Bumed Weriniaeth dan yr Arlywydd Charles de Gaulle.

Undeb Ffrainc
Enghraifft o'r canlynolendid tiriogaethol gweinyddol Edit this on Wikidata
Daeth i ben28 Medi 1958 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu27 Hydref 1946 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGorllewin Affrica Ffrengig Edit this on Wikidata
Map
OlynyddFrench Community Edit this on Wikidata

Ceisiodd Undeb Ffrainc efelychu'r Gymanwlad Brydeinig. Roedd yn cynnwys Ffrainc fetropolitanaidd, y départements tramor (Algeria Ffrengig, Réunion, Guiana Ffrengig, Gwadelwp, a Martinique), tiriogaethau tramor (Gorllewin Affrica Ffrengig, Affrica Gyhydeddol Ffrengig, Madagasgar, Mayotte, Somalia Ffrengig, Comoros, Caledonia Newydd, Polynesia Ffrengig, Saint-Pierre-et-Miquelon, ac India Ffrengig), tiriogaethau ymddiriedol y Cenhedloedd Unedig (Togoland Ffrengig a Cameroun Ffrengig), a'r gwledydd cysylltiedig (Moroco Ffrengig, Tiwnisia Ffrengig, ac Indo-Tsieina Ffrengig).

Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.