Vera Inber

awdur Sofietaidd

Awdures o Rwsia oedd Vera Mikhailovna Inber (28 Mehefin 1890 - 11 Tachwedd 1972) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, newyddiadurwr, awdur a chyfieithydd.[1][2]

Vera Inber
Ganwyd28 Mehefin 1890 (yn y Calendr Iwliaidd), 10 Gorffennaf 1890 Edit this on Wikidata
Odesa Edit this on Wikidata
Bu farw11 Tachwedd 1972 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
Galwedigaethbardd, newyddiadurwr, llenor, cyfieithydd, rhyddieithwr, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Girl from Nagasaki Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth naratif, stori fer, sketch story Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
MudiadAdeileddiaeth Edit this on Wikidata
PriodAlexander Frumkin, Ilya Strashun, Nathan Inber Edit this on Wikidata
PlantGauzner, Zhanna Vladimirovna Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Wladol Stalin, Urdd y Bathodyn Anrhydedd, Urdd Baner Coch y Llafur, Medal "For the Defence of Leningrad, Medal "Am Waith Arbennig yn Rhtfel Mawr Gwladgarol 1941–1945", Medal Jiwbili "20 Mlynedd ers Buddugoliaeth Rhyfel Gwladgarol 1941–1945", Jubilee Medal Medal "In Commemoration of the 250th Anniversary of Leningrad" Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Vera Mikhailovna Shpenzer, Rwseg: Ве́ра Миха́йловна И́нбер, yn Odesa a oedd yn Ymerodraeth Rwsia yr adeg honno, a bu farw yn Moscfa lle'i claddwyd ym Mynwent Vvedenskoye.[3][4][5][6][7]

Magwraeth

golygu

Roedd ei thad Moshe yn berchen ar dŷ-cyhoeddi llyfrau gwyddonol "Matematika" (Mathemateg) ac yn gefnder i Leon Trotsky, a ddaeth yn chwyldroadwr enwog yn ddiweddarach. Bu "Lev" (Trotsky) naw oed yn byw gyda Moshe a'i wraig Fanni yn eu fflat yn Odesa pan oedd Vera'n fabi.[8]

Aeth Vera i adran Hanes a Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Odesa am gyfnod byr. Cyhoeddwyd ei cherddi cyntaf ym 1910 mewn papurau newydd lleol. Yn 1910-1914 bu'n byw ym Mharis ac yna'r Swistir; yna symudodd i Moscfa. Yn ystod y 1920au bu'n gweithio fel newyddiadurwr, yn ysgrifennu rhyddiaith, erthyglau, a thraethodau, ac yn teithio ar draws y wlad, a thramor.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n byw yn Leningrad, dan warchae, lle roedd ei gŵr yn gweithio fel cyfarwyddwr sefydliad meddygol. Mae llawer o'i barddoniaeth a'i rhyddiaith yn ystod y cyfnod hwnnw yn ymwneud â bywyd a gwrthwynebiad dinasyddion Sofietaidd i'r Almaenwyr. Yn 1946 derbyniodd wobr llywodraeth Gosudarstvennaya premiya SSSR am ei cherdd "Pulkovskij Meridian" (Pulkovo Meridian) a sgwennodd pan oedd Lenningrad dan warchae. Dyfarnwyd sawl medal iddi hefyd.

Roedd yn aelod o Blaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd.

Aelodaeth

golygu

Bu'n aelod o Undeb Awduron yr USSR am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Wladol Stalin, Urdd y Bathodyn Anrhydedd, Urdd Baner Coch y Llafur, Medal "For the Defence of Leningrad, Medal "Am Waith Arbennig yn Rhtfel Mawr Gwladgarol 1941–1945", Medal Jiwbili "20 Mlynedd ers Buddugoliaeth Rhyfel Gwladgarol 1941–1945", Jubilee Medal Medal "In Commemoration of the 250th Anniversary of Leningrad" .


Cyfeiriadau

golygu
  1. Robert Chandler (2005). Russian Short Stories from Pushkin to Buida. Publisher Penguin UK. ISBN 0141910240. Page
  2. Christine D. Tomei (1999). Russian Women Writers, Volume 1. Cyhoeddwr: Taylor & Francis. ISBN 0815317972. Tud. 979.
  3. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 11 Gorffennaf 2024.
  5. Dyddiad geni: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  6. Dyddiad marw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Vera Inber". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Vera Inber". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Vera Inber". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Vera Mihajlovna Inber".
  7. Man geni: А. М. Прохорова, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135
  8. Service. tt. 30-33