Vicky Cristina Barcelona (ffilm)

ffilm ddrama a drama-gomedi gan Woody Allen a gyhoeddwyd yn 2008

Mae Vicky Cristina Barcelona (2008) yn ffilm a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan Woody Allen. Enillodd y ffilm Wobr Golden Globe a chafodd ei henwebu am Wobr yr Academi. Dyma yw pedwerydd ffilm Allen i gael ei ffilmio'r tu allan i'r Unol Daleithiau. Mae'r ffilm yn canolbwyntio ar ddwy Americanes, Vicky a Cristina, sydd yn treulio'u Haf yn Barcelona. Tra yno, maent yn cyfarfod artist, sydd yn ffansio'r ddwy ohonynt ond mae'n dal i garu ei gyn-wraig ansefydlog. Saethwyd y ffilm yn Avilés, Barcelona ac Oviedo.

Vicky Cristina Barcelona
Cyfarwyddwr Woody Allen
Cynhyrchydd Letty Aronson
Jaume Roures
Stephen Tenenbaum
Gareth Wiley
Ysgrifennwr Woody Allen
Serennu Scarlett Johansson
Penélope Cruz
Javier Bardem
Rebecca Hall
Dylunio
Cwmni cynhyrchu The Weinstein Company
Optimum Releasing
Dyddiad rhyddhau 15 Awst, 2008
Amser rhedeg 96 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Sbaen
Iaith Saesneg
Sbaeneg
(Saesneg) Proffil IMDb

Cafwyd noson agoriadol y ffilm yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes yn 2008. Cafodd y ffilm ei rhyddhau yn yr Unol Daleithiau ym mis Awst, gan gael ei rhyddhau mewn gwahanol wledydd yn fisol nes i'r ffilm gael ei rhyddhau yn y DU a'r Ariannin ym mis Chwefror 2009.

Prif Gast golygu

Mae'r actor Sbaeneg Joan Pera, sydd wedi trosleisio llais Allen mewn ffilmiau blaenorol yn gwneud ymddangosiad cameo.[1]

Dyma'r drydedd ffilm i Johansson ac Allen gyd-weithio arni, ar ôl Match Point a Scoop. Dyma'r ail dro hefyd i Johansson a Hall i weithio gyda'i gilydd, y tro cyntaf oedd The Prestige.

Cyfeiriadau golygu

  1. Woody Allen rewards Spanish alter ego with role in new film, Erthygl Ebrill 12, 2007 o The Times Llundain. Adalwyd 07-02-09
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.