Władysław Reymont
Nofelydd ac awdur straeon byrion Pwylaidd oedd Władysław Stanisław Reymont (7 Mai 1867 – 5 Rhagfyr 1925) a enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1924 am ei nofel epig genedlaethol Chłopi (1904–09).[1]
Władysław Reymont | |
---|---|
Władysław Reymont | |
Ganwyd | Władysław Stanisław Rejment 7 Mai 1867 Kobiele Wielkie |
Bu farw | 5 Rhagfyr 1925 Warsaw |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, sgriptiwr, rhyddieithwr |
Adnabyddus am | The Peasants, The Promised Land |
Plaid Wleidyddol | National League, Polish People's Party "Piast" |
Priod | Aurelia Szacnajder Szabłowska |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Commandeur de la Légion d'honneur, Swyddog yn Urdd y Polonia Restituta, Cadlywydd Urdd Polonia Restituta, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta, Urdd yr Eryr Gwyn |
llofnod | |
Ganed Władysław Stanisław Rejment ym mhentref Kobiele Wielkie, ger Łódź, yng Ngwlad Pwyl y Gyngres, dan dra-arglwyddiaeth Ymerodraeth Rwsia. Ni chwblhaodd ei addysg yn yr ysgol, ac aeth yn brentis mewn siop ac yn frawd lleyg. Gweithiodd hefyd yn swyddog ar y rheilffyrdd ac yn actor yn ystod ei ieuenctid. Mae dwy o'i nofelau cynnar, Komediantka ("Digrifwraig"; 1896) a Fermenty (1897), yn seiliedig ar ei brofiadau ym myd y theatr.[2]
Un o'i nofelau pwysicaf yw Ziemia obiecana ("Gwlad yr Addewid"; 1899), sydd yn portreadu perchnogion y ffatrïoedd gwehyddu yn Łódź. Ysgrifennai hefyd straeon byrion am fywydau gwerin gwlad a ddylanwadwyd yn gryf gan naturiolaeth. Ei gampwaith yw'r nofel epig Chłopi ("Gwerinwyr"), a gyhoeddwyd mewn pedair cyfrol o 1904 i 1909. Dyma gronicl o fywyd yng nghefn gwlad y Bwyldir drwy bedwar tymor y flwyddyn, wedi ei ysgrifennu yn bennaf mewn tafodiaith werinol.
Ymhlith ei weithiau diweddar mae Rok 1794 (tair cyfrol, 1913–18), nofel hanesyddol am adladd Ail Raniad Gwlad Pwyl a Gwrthryfel Kościuszko ym 1794, a Wampir (1911) sydd yn ymwneud â mudiad yr ysbrydegwyr. Bu farw Władysław Reymont yn Warsaw yn 58 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1924", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 25 Chwefror 2022.
- ↑ (Saesneg) Władysław Stanisław Reymont. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Chwefror 2022.