W. J. Rees
Athronydd ac academydd o Gymru oedd William James "Bill" Rees (1914 – 1995) sy’n nodedig am ei gyfraniadau at ysgolheictod athronyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.
W. J. Rees | |
---|---|
Ganwyd | 1914 Tyddewi |
Bu farw | 1995 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | darlithydd, deon |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Lenin, Y meddwl Cymreig |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd William James Rees yn Nhyddewi a chafodd ei fagu ym Mhencaer, ger Abergwaun. Mynychodd Ysgol Uwchradd Tyddewi ac Ysgol Uwchradd Abergwaun. Yn ei arddegau, roedd yn bwriadu hyfforddi’n weinidog Cristnogol. Aeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gyda chymorth ariannol ei gyn-athro yn Abergwaun, D. J. Williams.[1]
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd swydd yn darlithio ar faterion cyfoes i’r Fyddin Brydeinig. Derbyniodd radd athroniaeth, gwleidyddiaeth ac economeg o Goleg Lincoln, Rhydychen yn 1948.[1]
Gyrfa academaidd
golyguPenodwyd Rees yn ddarlithydd cynorthwyol yn Adran Athroniaeth Aberystwyth yn 1948. Pan ddaeth ei gytundeb darlithio i ben yn 1951, nid adnewyddwyd ef, am fod ei daliadau comiwnyddol yn pryderu awdurdodau'r coleg. Am gyfnod bu'n symud yn ôl i fyw gyda'i fam yn Nhyddewi, ac yn gofalu am ei feibion, tra'r oedd ei wraig yn cynnal y teulu drwy weithio'n athrawes yn Welwyn Garden City.[1]
Yn 1953 derbyniodd Rees gymrodoriaeth ymchwil yng Ngholeg Bedford, Llundain. Mewn byr amser cafodd swydd dros dro yn addysgu athroniaeth ym Mhrifysgol Leeds. Ar ôl tair blynedd, gwnaethpwyd ei swydd yn un barhaol, a threuliodd weddill ei yrfa academaidd yn Leeds. Fe'i dyrchafwyd yn uwch-ddarlithydd ac yn bennaeth dros dro yr adran, ac yn ddeon Cyfadran y Celfyddydau. Ymddeolodd o'i yrfa academaidd yn 1980.[1]
Cyfraniadau at athroniaeth Gymraeg
golyguYn 1948, i ddathlu canmlwyddiant ers cyhoeddi’r Maniffesto Comiwnyddol gan Marx ac Engels, cyfieithodd Rees y gwaith hwnnw i'r Gymraeg ar gyfer Pwyllgor Cymreig y Blaid Gomiwnyddol. Ysgrifennodd y gyfrol am Lenin (1981) yng nghyfres y Meddwl Modern a golygodd y casgliad o ysgrifau Y Meddwl Cymreig (1995).
Bywyd personol a diwedd ei oes
golyguFe briododd Peggy James yn Hwlffordd yn 1943. Bu farw yn 81 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 W. L. Gealy, "William James Rees (1914–1995)" yn Efrydiau Athronyddol cyfrol 59 (1996), tt. 1–5.