Marswpial
Marswpialod | |
---|---|
Cangarŵ Llwyd y Dwyrain (Macropus giganteus) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Is-ddosbarth: | |
Inffradosbarth: | Illiger, 1811 |
Urddau | |
Grŵp o famaliaid yw marswpialod (hefyd bolgodogion neu codogion). Mae ganddynt goden arbennig (sef y marsupium) a ddefnyddir gan y benywod i gario eu hepil yn ystod plentyndod cynnar. Mae tua 331 o rywogaethau o farswpialod: mwy na 200 yn Awstralasia, tua 100 yng Nghanolbarth a De America ac un yng Ngogledd America. Fe'u ceir mewn llawer o gynefinoedd gwahanol ac maent yn cynnwys hollysyddion, cigysyddion, llysysyddion a phryfysyddion.
Tacsonomeg
golygu- Uwch-urdd Ameridelphia
- Urdd Didelphimorphia (87 o rywogaethau)
- Teulu Didelphidae: oposymiaid
- Urdd Paucituberculata (6 rhywogaeth)
- Teulu Caenolestidae: llŷg-oposymiaid
- Urdd Didelphimorphia (87 o rywogaethau)
- Uwch-urdd Australidelphia
- Urdd †Yalkaparidontia
- Urdd Microbiotheria (1 rywogaeth)
- Urdd Dasyuromorphia (71 o rywogaethau)
- Teulu †Thylacinidae: Thylasin
- Teulu Dasyuridae: cwoliaid, Cythraul Tasmania, a pherthnasau
- Teulu Myrmecobiidae: Nymbat
- Urdd Peramelemorphia (21 o rywogaethau)
- Teulu Thylacomyidae: bilbïaid
- Teulu †Chaeropodidae
- Teulu Peramelidae: bandicŵtiaid
- Urdd Notoryctemorphia (2 rywogaeth)
- Urdd Diprotodontia (143 o rywogaethau)
- Teulu Phascolarctidae: Coala
- Teulu Vombatidae: wombatiaid
- Teulu †Diprotodontidae
- Teulu Burramyidae
- Teulu Phalangeridae: cwscwsiaid a pherthnasau
- Teulu Pseudocheiridae
- Teulu Petauridae
- Teulu Tarsipedidae: Poswm y Mêl
- Teulu Acrobatidae
- Teulu Hypsiprymnodontidae
- Teulu Potoridae
- Teulu Macropodidae: cangarŵod a walabïod
- Teulu †Thylacoleonidae: llewod bolgodog
- Urdd †Sparassodonta
Cyfeiriadau
golygu- MacDonald, David W., gol. (2009) The Encyclopedia of Mammals, Oxford University Press, Rhydychen.
- Wilson, D. E. & D. M. Reeder, goln. (2005) Mammal Species of the World, 3ydd argraffiad, Johns Hopkins University Press.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Natural History Collections: Marsupials