Gwefan oedd WalesHome, yn ôl ei golygyddion, yn cynnig "dadansoddiadau annibynnol o Gymru am Gymru". Sefydlwyd y wefan yn Ebrill 2009 a cyhoeddodd erthyglau beunyddiol gan gyfranwyr nodedig amrywiol ar bynciau megis gwleidyddiaeth Gymreig, cymdeithas Cymru a'r celfyddydau.

Ymhlith y llu o gyfranwyr nodedig yr oedd Nick Bourne AC, Nick Clegg AS, Jill Evans ASE, Edwina Hart AC, Bethan Jenkins AC, Ann Jones AC, y Prif Weinidog Carwyn Jones AC, Archesgob Cymru Barry Morgan, Julie Morgan AS, Jenny Randerson AC, Rhodri Glyn Thomas AC a Kirsty Williams AC.

Aeth y wefan oddi ar lein yn Ebrill 2012 wedi cael trafferthion gyda'i llety gwe.[1] Daeth blog dros dro yn ôl ar wefan Tumblr ac apeliwyd am gymorth gyda'r wefan. Er hynny tynnwyd y wefan i lawr a ni ddaeth mwy o gynnwys ar ôl hynny.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. @waleshome (3 Ebrill 2012). "Sorry everyone - site is down. Victim of our own success. Host says it can't handle our traffic. Please be patient as this is a biggie" (Trydariad) (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Ionawr 2020 – drwy Twitter.
  2.  WalesHome – demise reports exaggerated. WalesHome (6 Ebrill 2012). Adalwyd ar 24 Ionawr 2020.

Dolenni allanol

golygu