Awdures o Awstria-Hwngari, Gwlad Pwyl a'r Undeb Sofietaidd oedd Wanda Wasilewska (21 Ionawr 1905 - 29 Gorffennaf 1964) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, sgriptiwr, gwleidydd a lladmerydd dros gydraddoldeb rhyw. Roedd yn weithredwr gwleidyddol asgell chwith a ddaeth yn gomiwnydd ymroddedig. Ffodd rhag ymosodiad yr Almaen ar Warsaw ym Medi 1939 a dechreuodd fyw yn Lviv a oedd dan feddiant y Sofietaidd, ac yna yn yr Undeb Sofietaidd.

Wanda Wasilewska
GanwydWanda Wasilewska Edit this on Wikidata
21 Ionawr 1905 Edit this on Wikidata
Kraków Edit this on Wikidata
Bu farw29 Gorffennaf 1964 Edit this on Wikidata
Kyiv Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
AddysgDoethuriaeth Nauk mewn Athroniaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Uniwersytet Warszawski
  • Prifysgol Jagielloński Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, llenor, sgriptiwr, gwleidydd, bardd, dramodydd, golygydd cyfrannog Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd, Member of the Sejm of the Polish People's Republic Edit this on Wikidata
Arddullnofel Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gweithwyr Gwlad Pwyl, Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, Plaid Sosialaidd Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
TadLeon Wasilewski Edit this on Wikidata
PriodAlexander Korneychuk Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Lenin, Medal "Am Waith Arbennig yn Rhtfel Mawr Gwladgarol 1941–1945", Urdd Croes Grunwald, dosbarth 1af, Gwobr Wladol Stalin, Cadlywydd gyda Seren Urdd Polonia Restituta, Gorchymyn Baner Lafur Dosbarth Cyntaf, Medal "To a Partisan of the Patriotic War", 1st class, Medal for Warsaw 1939-1945, Partisan Cross (Poland) Edit this on Wikidata

Hi oedd sylfaenydd Undeb Gwladychwyr Gwlad Pwyl yno a chwaraeodd ran bwysig yn y gwaith o greu Is-adran Troedwyr 1af Tadeusz Pwylaidd Kościuszko, sef is adran filwrol. Datblygodd yn Fyddin y Pwyliaid a brwydrodd ar y Ffrynt Dwyreiniol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd Wasilewska yn un o ymgynghorwyr Joseph Stalin ac roedd ei dylanwad yn hanfodol i sefydlu Pwyllgor Annibyniaeth Gwlad Pwyl yn Gorffennaf 1944, ac felly i ffurfio Gweriniaeth Gwlad Pwyl.[1]

Ganed Vanda Lvovna Vasilevskaya (Rwsieg: Ва́нда Льво́вна Василе́вская) yn Kraków ar 21 Ionawr 1905; bu farw yn Kiev ac fe'i claddwyd ym Mynwent Baikove o drawiad calon. Hi oedd trydedd ferch Leon Wasilewski, gwleidydd Plaid Sosialaidd Gwlad Pwyl (PPS) a gweinidog tramor cyntaf y Wlad Pwyl annibynnol newydd. Roedd ei mam, Wanda Zieleniewska, hefyd yn aelod o'r PPS ac roedd y Wasilewska ifanc wedi dod ei thrwytho mewn gwleidyddiaeth.[2][3][4][5][6][7]

Astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Warsaw a Phwyleg a Llenyddiaeth Bwylaidd ym Mhrifysgol Jagiellonian yn Kraków (o 1923 ymlaen).[8] Bu'n briod i Roman Szymański a chawsant ferch; ond bu farw yn 1931.

Gwaith

golygu

Ar ôl graddio, arhosodd yn Kraków gan gwbwlhau doethuriaeth yn 1927. Tra'n astudio, dechreuodd gydweithredu ag Undeb Ieuenctid Sosialaidd Annibynnol (ZNMS, ynghyd â'r PPS) a Chymdeithas Prifysgolion y Gweithwyr. O'r 1930au cynnar, roedd Wasilewska yn ymwneud yn gryf â materion menywod a chydraddoldeb rhyw. [9][10][11]

Bu'n aelod o Blaid Gweithwyr Gwlad Pwyl, Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd a Phlaid Sosialaidd Gwlad Pwyl.

Ar ôl gorffen ei hastudiaethau, dechreuodd Wasilewska weithio fel athrawes ysgol uwchradd yn Kraków, ond collodd ei swydd pan wrthododd awdurdodau'r ysgol ymestyn ei chontract oherwydd ei barn asgell chwith. Gyda'i gŵr Marian Bogatko hefyd wedi'i ddiswyddo, amrefnu streic, yn yr hydref 1934 symudon nhw i Warsaw, lle daeth Wasilewska yn rhan o adran Pwylaidd y Red Aid Rhyngwladol, sefydliad a oedd yn ymwneud â helpu carcharorion gwleidyddol a'u teuluoedd, a Chynghrair Gwlad Pwyl ar gyfer Amddiffyn Hawliau Dynol a Dinasyddion.

Ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd roedd yn gefnogwr cadarn o'r Undeb Sofietaidd, a chredai mai dyma'r unig rym a allai atal ffasgiaeth. Yn 1931, priododd eilwaith, gyda Marian Bogatko, a ffurfiolwyd y briodas yn 1936 ond llofrddiwyd Bogatko yn 1940, yn Lviv. Ceir sawl barn am ei llofruddwyr, un farn yw mai asiant Sofietaidd oedd yn gyfrifol.

Yr Ail Ryfel Byd

golygu

Ar ôl Goresgyniad Gwlad Pwyl gan yr Almaen Natsïaidd ym Medi 1939, ffodd Wasilewska, fel cannoedd o filoedd o Bwyliaid eraill, i'r dwyrain a dilyn cyfarwyddiadau Stalin i Lviv (ar ôl goresgyniad Sofietaidd Gwlad Pwyl yn rhan o'r parth Sofietaidd).

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Urdd Lenin, Medal "Am Waith Arbennig yn Rhtfel Mawr Gwladgarol 1941–1945", Urdd Croes Grunwald, dosbarth 1af, Gwobr Wladol Stalin, Cadlywydd gyda Seren Urdd Polonia Restituta (1946), Gorchymyn Baner Lafur Dosbarth Cyntaf, Medal "To a Partisan of the Patriotic War", 1st class, Medal for Warsaw 1939-1945, Partisan Cross (Poland) .


Cyfeiriadau

golygu
  1. Halik Kochanski, The Eagle Unbowed (Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press 2012), tt.371–372
  2. Sławomir Koper, Kobiety władzy PRL (Warszawa, 2012), tt.35–37
  3. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://bs.sejm.gov.pl/F?func=find-acc&acc_sequence=000054054&find_code=SYS&local_base=ARS10.
  4. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 11 Gorffennaf 2024.
  5. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Wanda Wasilewska". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Wanda Wasilewska". https://cs.isabart.org/person/75909. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 75909. "Wanda Wasilewska". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://bs.sejm.gov.pl/F?func=find-acc&acc_sequence=000054054&find_code=SYS&local_base=ARS10. https://katalog.bip.ipn.gov.pl/informacje/114194. dyddiad cyrchiad: 1 Mawrth 2024.
  6. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 А. М. Прохорова, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Wanda Wasilewska". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Wanda Wasilewska". https://cs.isabart.org/person/75909. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 75909. "Wanda Wasilewska". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://bs.sejm.gov.pl/F?func=find-acc&acc_sequence=000054054&find_code=SYS&local_base=ARS10.
  7. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 12 Rhagfyr 2014 А. М. Прохорова, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135 https://katalog.bip.ipn.gov.pl/informacje/114194. dyddiad cyrchiad: 1 Mawrth 2024.
  8. Koper, Kobiety władzy PRL, tt.37-39
  9. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 30 Mawrth 2015 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 30 Mawrth 2015
  10. Galwedigaeth: https://cs.isabart.org/person/75909. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 75909.
  11. Swydd: https://bs.sejm.gov.pl/F?func=find-acc&acc_sequence=000054054&find_code=SYS&local_base=ARS10.