Watcyn Thomas
Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru oedd Watcyn Thomas (16 Ionawr 1906 – 10 Awst 1977). Bu'n chwarae tros Gymru rhwng 1927 a 1933. Roedd yn chwarae fel wythwr.
Watcyn Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 16 Ionawr 1906 Llanelli |
Bu farw | 10 Awst 1977 Birmingham |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Waterloo FC, Clwb Rygbi Llanelli, Clwb Rygbi Abertawe |
Safle | Wythwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed yn Llanelli, ac addysgwyd ym Mhrifysgol Abertawe. Pan oedd Yn Ysgol y Sir, Llanelli, ef oedd capten cyntaf tîm rygbi Ysgolion Uwchradd Cymru yn 1924. Ymunodd â Chlwb Rygbi Llanelli, cyn symud i Abertawe yn Rhagfyr 1927. Roedd yn athro wrth ei alwedigaeth, a symudodd i St Helens yn 1929 i ddysgu yn Ysgol Ramadeg Cowley. Yn y cyfnod yma, bu'n chwarae rygbi i Waterloo a Swydd Gaerhirfryn; ef oedd capten Swydd Gaerhirfryn pan enillsant y bencampwriaeth yn 1934-35.
Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr yn 1927, yn dilyn perfformiad gwych dros Lanelli yn erbyn tîm y Maori o Seland Newydd. Yn y gêm yn erbyn yr Alban yn 1931, chwaraeodd am 70 munud, a sgoriodd gais, gyda phont ei ysgwydd wedi torri. Ef oedd y capten pan gurwyd Lloegr yn Twickenham am y tro cyntaf yn 1933.
Yn dilyn y gêm yn erbyn Iwerddon yr un flwyddyn, bu ffrae rhyngddo a'r dewiswyr. Roedd y dewiswyr wedi dewis prop fel blaenasgellwr a blaenasgellwr fel prop ar gyfer y gêm yma. Anwybyddodd Thomas hyn, a chwaraeodd y ddau yn eu safleoedd arferol. O ganlyniad, ni chafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru eto.
Yn 1936 symudodd i Birmingham i ddusgu yn Ysgol y Brenin Edward, a bu farw yno yn 1977.
Llyfryddiaeth
golygu- Gareth Hughes (1983) One Hundred Years of Scarlet (Clwb Rygbi Llanelli) ISBN 0-9509159-0-4