Waterloo, Glannau Merswy
Ardal faestrefol yn nhref Crosby, Glannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Waterloo[1]. Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Sefton. Saif ar yr arfordir i'r de o ganol y dref ac i'r gogledd o Seaforth; mae Traeth Crosby yn rhedeg ar hyd glan y môr i'r gorllewin.
Math | maestref |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Fetropolitan Sefton |
Daearyddiaeth | |
Sir | Glannau Merswy (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.4758°N 3.0306°W |
Cod OS | SJ316981 |
Ar ddechrau'r 19g, roedd Waterloo yn ardal o Crosby, o'r enw Crosby Seabank. Bryd hynny dim ond dyrnaid o fythynnod ydoedd. Ond daeth yr ardal yn boblogaidd gydag ymwelwyr cefnog o Lerpwl, ac adeiladwyd gwesty mawr yn yr arddull Sioraidd ar gyfer y fasnach hon. Bwriadwyd enw'r gwesty i fod yn Crosby Seabank Hotel; fodd bynnag, roedd yr agoriad mawreddog yn cyd-daro â 18 Mehefin 1816, pen-blwydd cyntaf Brwydr Waterloo, ac felly cafodd ei enwi'n Royal Waterloo Hotel er anrhydedd i'r digwyddiad. Wrth i'r ardal ddod yn fwy poblog ac ennill cymeriad unigryw, cyferiwyd ati dan yr enw Waterloo. Mae ganddi sawl stryd sydd ag enwau'n gysylltiedig â'r frwydr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 18 Gorffennaf 2020