Heledd Cynwal
Cyflwynydd teledu Cymreig yw Heledd Cynwal (ganwyd 14 Mai 1975). Bu'n cyflwyno yn rheolaidd ar raglenni cylchgrawn Uned 5, Wedi 7 a Heno. Mae hefyd yn cyflwyno rhaglenni S4C o Eisteddfod yr Urdd ac Eisteddfod Llangollen ac yn cyd-gyflwyno Sion a Siân.
Heledd Cynwal | |
---|---|
Ganwyd |
14 Mai 1975 ![]() Bethlehem ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
cyflwynydd teledu ![]() |
Ganwyd Cynwal ym Methlehem, Llandeilo,[1] yn ferch i'r gyflwynwraig Elinor Jones.[2] Bu'n byw yng Nghaerdydd ond mae bellach yn byw ar gyrion Llandeilo.[3]
GwaithGolygu
- Bryn Terfel Scholarship (Boomerang)
- Yr C Ffactor (BBC Cymru)
- Noson Y Mileniwm (Antena)
- Am Y Gorau (Torpedo Ltd)
- Y Briodas Fawr (Solo)
- Llangollen International Eisteddfod (Rondo Media)
- Uned 5 (Antena)
- Blwyddyn Newydd Dda (Avanti)
- Plaza Piccaso (BBC Cymru)
- Côr Cymru (Rondo Media)
- Cofio (ITV Wales)
- Eisteddfod yr Urdd (Avanti)
- Wedi 7 (Tinopolis)
- Sion a Siân (ITV Cymru, 2012-)
- Chwys (Slam Media, 2016)
CyfeiriadauGolygu
- ↑ C2: Gwesteion: Heledd Cynwal. BBC Radio Cymru (20 Mai 2004).
- ↑ Cwpwrdd Dillad: Elinor Jones a Heledd Cynwal. S4C.
- ↑ Cyfres yn dathlu rhai o gampau cefn gwlad Cymru. S4C (22 Awst 2016). Adalwyd ar 31 Awst 2016.