Ymddiriedolaeth Cynllunio a Thai Cymru
Menter i gynllunio, codi a threfnu trefi, pentrefi a maestrefi gwell yng Nghymru, sefydlwyd yn 1913 gan y teulu Davies o Landinam, oedd yr Ymddiriedolaeth Cynllunio a Thai Cymru (Welsh Town Planning and Housing Trust).
Math o gyfrwng | ymddiriedolaeth, housing association |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1913 |
Sylfaenydd | David Davies, Barwn 1af Davies, Gwendoline Davies, Margaret Davies |
Gwladwriaeth | Cymru |
Cafodd yr ymddiriedolaeth ei sefydlu yn 1913 gan David Davies, Barwn 1af Davies ac AS ar gyfer Sir Drefaldwyn, a'i chwiorydd, Gwendoline a Margaret Davies, i hyrwyddo amodau tai gwell yng Nghymru a mannau eraill. Yn ôl y teulu Davies, byddai'r problemau hynny yn gallu cael ei datrys gan berchnogion preifat yn gweithredu trwy gwmni cyfyngedig cyhoeddus. Roedd bwrdd cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth yn cynnwys (heblaw David, Gwendoline a Margaret Davies) Lord Kenyon, Lord Treowen, Aneurin Williams, AS, a Daniel Lleufer Thomas. Cafodd George Maitland Lloyd Davies (cefnder i'r teulu Davies) ei benodi fel ysgrifennydd yr ymddiriedolaeth.
Gweithiodd yr ymddiriedolaeth mewn cydweithrediad gyda chymdeithasau cydweithredol lleol. Cafodd safonau gofynnol ei sefydlu ar gyfer ansawdd yr adeiladu, y nifer o dai gallai eu codi mewn erw ac ar gyfer dulliau pensaernïaeth.
Er bod y llywodraeth leol a chenedlaethol wedi darparu cymorth ymarferol ac ariannol, cafodd maint y gwaith ei chyfyngu gan ei dibyniaeth ar fuddsoddiad preifat. Ymgymerwyd â llawer o'r prosiectau gan yr ymddiriedolaeth yn gweithredu ar ei phen ei hun (er enghraifft yn Wrecsam, Machynlleth, Weston Rhyn (Swydd Amwythig) a'r Barri). Cafodd prosiectau eraill ei etifeddu oddi wrth elusennau (yn Rhiwbeina), neu ddatblygu gydag awdurdodau lleol (yn y Drenewydd a'r Trallwng, ac yn Braintree a Woodford, Lloegr), adrannau llywodraeth ganolog (ym Mhorth Tywyn), neu gyda chwmnïau preifat fel y Taff Merthyr Steam Coal Company (yn Nhrelewis) neu yn enwedig gyda chwmnïau rheilffordd fel y Barry Railway Company ac y Great Western Railway (yng Nghyffordd Twnnel Hafren, Abertawe, Caerffili, y Barri a Llanelli, ac yn Lloegr hefyd, yn lleoedd fel Truro, Penzance a Banbury).
Dros y blynyddoedd, roedd rhai o'r cymdeithasau tai lleol a oedd yn gweithio gyda'r ymddiriedolaeth yn gwerthu eu tai i'r deiliaid ac yn gadael yr ymddiriedolaeth (er enghraifft ym Machynlleth, Llanidloes, Wrecsam a Weston Rhyn).[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "welsh-town-planning-and-housing-trust-records-2-pdf" (PDF). Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-05-26. Cyrchwyd 26 Mai 2022.