Wermod Lwyd
Y wermod lwyd (Artemisia absinthium) yn tyfu'n wyllt yn Rwsia
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Asterales
Teulu: Asteraceae
Genws: Artemisia
Rhywogaeth: A. absinthium
Enw deuenwol
Artemisia absinthium
L.

Llysieuyn rhinweddol ydy'r wermod lwyd sydd hefyd yn cael ei alw'n chwerwlys (Lladin: Artemisia absinthium, Saesneg: (Common) Wormwood). Daw'r gair "wermod" o'r gair Saesneg "wormood" a defnyddiwyd y gair Cymraeg "wermod lwyd" yn gyntaf yn yr 16g "haner dyrned o'r wermod lwyd..." (WLB).[1] Mae'r coesynnau'n tyfu'n syth fel saeth - rhwng 0.8 a 1.2 metr o uchder a'r rheiny mewn traws-doriad ar siâp pedol, wedi'u canghennu ac yn wyrdd-arian o ran lliw, yn y rhan uchaf ac yn wyn oddi tano. Mae'r dail wedi'u gosod ar sbiral a gall y dail ar waelod y planhigyn fod cyhyd â 25 cm o ran hyd.

Sut i'w dyfu

golygu

Yn sicr, mae'r wermod lwyd angen tir sych a hynny yn llygad yr haul - a chyda digonedd o nitrogen yn y pridd.

Tarddiad y gair

golygu

Daw'r gair o'r Saesneg Canol, "wormwode" neu "wermode" gan iddo gael ei ddefnyddio yn yr oes honno ar gyfer llyngir (y rhan "worm" o'r gair); yr un ydyw, mewn gwirionedd, â'r gair modern "Vermouth".

Defnydd ohono

golygu

Drwy ferwi'r dail, ceir hylif eithaf cryf sy'n cael ei ddefnyddio i gadw pryfaid i ffwrdd. Caiff hefyd ei ddefnyddio fel planhigion cynorthwyol i'w dyfu ar ymyl y prif gnwd er mwyn cadw trychfilod i ffwrdd. Fe'i defnyddir i roi blas ar "liquor absinthe" ac i roi blas ar winoedd ac ati. Arferid ei ddefnyddio yn y canol oesoedd i roi blas ar fedd (ee "meddyglyn").

Rhinweddau llysieuol

golygu

Caiff ei ddefnyddio heddiw (ac ers canrifoedd yng Nghymru) fel tonic, ar gyfer anhwylderau'r stumog (diffyg traul), gwrthseptig ayb.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur Prifysgol Cymru Cyfrol 4

Gweler hefyd

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: