Wicipedia:Wici Cymru/Cofnodion 10 Rhagfyr 2012

   Hafan Datblygu        Cynllun Datblygu        Digwyddiadau        Cyhoeddusrwydd          Wici GLAM        Wici Addysg        Wici Cymru        Man Trafod    

* Cofnodion * Cyfansoddiad

Cofnodion cyfarfod a gynhaliwyd 10/12/2012 yng Ngwesty'r Castell, Rhuthun.

Yn bresennol:

Elfed Williams (Cadeirydd), Phil Jonathan (Ysgrifennydd), Rhys Wynne a Robin Owain. Ymddiheuriadau: Huw Williams (Trysorydd), Geraint Hughes, Martin Evans Jones (Is-gadeirydd) a Gwyn Williams (Cymdeithas Edward Llwyd).

Croesawyd pawb i'r cyfarfod gan Elfed.

Cofrestru fel elusen

Cafwyd trafodaeth helaeth (dan arweiniad Elfed) ar y drefn a'r oblygiadau o newid o fod yn gymdeithas i gofrestru fel elusen. Trafodwyd hefyd ein perthynas gyda WMUK a statws Cymru o fewn "Prydain" ynghyd a rhai datblygiadau yng Nghatalonia. Cafwyd sgwrs hefyd am dderbyniad di-wifr mewn mannau cyfarfod yn Rhuthun.

Grantiau

Trafodwyd grant Lloyds TSB ac ymholi yn ei gylch. Cafwyd sgwrs hefyd ynglyn â'r gymdeithas yn ymgeisio am dendrau.

Penderfynwyd

  • Cytunodd Elfed i holi ynghylch Co-op Cymru.
  • Peidio â chodi tal aelodaeth ar hyn o bryd; aelodaeth am ddim.
  • Fod gennym hawl i dendro cyn belled a bod amcanion y tendr yn cyd fynd gyda ein hamcanion ni fel cymdeithas.