Wicipedia:Wici Cymru/Cofnodion 12 Medi 2012

   Hafan Datblygu        Cynllun Datblygu        Digwyddiadau        Cyhoeddusrwydd          Wici GLAM        Wici Addysg        Wici Cymru        Man Trafod    

* Cofnodion * Cyfansoddiad


Cofnodion 24 Hydref, 2012 yn 8 Llys y Berllan, Rhuthun..


1. Presenol: Elfed Williams, Cadeirydd; y Parch Martin Evans-Jones, Is Gadeirydd; Dr. Phil Jonathan, Ysgrifennydd, Robin Owain, Eirian Owain.


2. Ymddiheuriadau

Rhys Wynne (Ben Bore); Elerin Thomas (Lloffiwr), Huw Williams, Trysorydd, Carl Morris (Hacio’r Iaith).


3. Enw’r Gymdeithas.

Cytunwyd i ychwanegu ail enw, sef Cymdeithas Wici Cymru, fel prif enw ar y gymdeithas. Cytunwyd newid y Cyfansoddiad i:

‘Enw’r Gymdeithas yn Gymraeg yw ‘Cymdeithas Wici Cymru’; Saesneg: ‘Wici Cymru Society’. Byddwn hefyd yn defnyddio’r is-enw ‘Cymdeithas Llwybrau Byw’, ac yn Saesneg ‘The Living Paths Society’.

Derbyniwyd cofnodion 24 Hydref 2012 fel rhai cywir.


4. Rhys Ifans

Croesawyd Rhys Ifans i’n plith, fel Noddwr Anrhydeddus. Trafodwyd rhai enwau eraill yn ogystal, fel cyd-Noddwyr.


5. Grant y Gymraeg

dim ymateb hyd yma; trafodwyd y targedau.


6. Grantiau eraill

trafodwyd 2 grant arall y bwriedir cynnig amdanynt.


7. CoI

Trafodwyd COI WMUK a derbyniwyd y llythyr gan y Prif Wethredwr (Jon Davies) yn cadarnhau eu teyrngarwch a’u cefnogaeth i Wicipedia Cymraeg.


8. Camau breision gan Lywodraeth Cymru

Llongyfarchwyd Leighton Andrews ar ei Gynllun 4air mlynedd parthed y Gymraeg a thechnoleg gwybodaeth.


9 Cloi

Crynhowyd y gwaith sydd i'w wneud, a phwy sydd yn gyfrifol am ei wneud, gan y cadeirydd.