Wicipedia:Wicibrosiect Wici Môn

Logo WiciMon
Logo WiciMon
Croeso i dudalen Prosiect WiciMôn!

Y bwriad yw cyfoethogi a phoblogeiddio cynnwys yr Wicipedia Cymraeg er mwyn codi statws yr iaith Gymraeg yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a hynny drwy brosiect hanesyddol, gwyddonol, iethyddol, a fydd yn hybu trafod termau gwyddonol yn Gymraeg.

Partneriaid y prosiect hwn yw Llywodraeth Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, Menter Môn a Wicimedia Cymru / Wikimedia UK. Penodwyd Aaron Morris fel swyddog y prosiect unigryw hwn, a bydd yn canolbwyntio ar sgiliau codio pobl ifanc Ynys Môn dros y ddwy flynedd nesaf.

Y prosiect

golygu
 
Robin Owain (Wici Cymru), Helen Williams (Menter Iaith Môn) ac Aaron Morris, Swyddog Prosiect WiciMôn
 
Erthygl ar y prosiect ar wefan Golwg360; 14 Mehefin 2017.

Gobeithiwn y bydd y prosiect yn creu mwynhad a gwefr drwy alluogi pobl ifanc i gynhyrchu deunyddiau gwyddonol Cymraeg fydd yn cael eu cyhoeddi ar Wicipedia, a thu hwnt. Er ei fod yn canolbwyntio ar Ynys Môn, y gobaith yw y bydd y cynnwys o ddefnydd cenedlaethol. Rheolir y prosiect gan Aaron Morris.

Yn sgil y prosiect hwn, fe fydd pobl ifanc yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd, a chymryd rhan mewn profiadau Cymraeg positif, a fydd wedyn yn cyfrannu tuag at eu datblygiad personol. Ein gobaith yw y byddant yn defnyddio eu sgiliau newydd, ac yn magu hyder gan fynd ati i gyfrannu at weithgareddau lleol a chymunedol eraill – byddwn yn parhau i’w cefnogi i fod yn arweinyddion yn eu hardaloedd lleol, a hyn drwy gydweithio â mudiadau a grwpiau perthnasol eraill i hyrwyddo cyfleon cymdeithasol a gwirfoddoli eraill sydd ar gael yn lleol.

Crynodeb weithredol - WiciMôn

golygu

Er mwyn cyflawni’r uchod, byddwn yn cynnal gweithdai gyda phobl ifanc i greu erthyglau, eitemau ffilm a radio a datblygu gwaith codio. Byddwn yn ysbrydoli’r rhai sy’n rhan o’r prosiect drwy weithdai gydag arbenigwyr perthnasol, er mwyn iddynt greu erthyglau/cynnwys cyfryngol. Bydd y prosiect yn weithredol drwy:

  • Roi hyfforddiant ac arweiniad i bobl ifanc greu ac ysgrifennu eu erthyglau eu hunain ar gyfer WiciMôn, is-brosiect sy’n rhan o’r Wicipedia Cymraeg. Bydd erthyglau yn dilyn pynciau STEM er mwyn rhoi ffocws i’r wybodaeth a gyflwynir, ond ni fydd yn gyfyngedig i’r pynciau hyn.
  • Bydd elfen ddigidol i’r prosiect yn caniatáu i’r bobl ifanc greu ffilmiau byrion ac eitemau radio.  Mae pobl ifanc yn mwynhau gweithgareddau creadigol, ac yn cael gwefr o weld eu gwaith wedi ei gyhoeddi – yn enwedig ar y we.
  • Bydd y bobl ifanc yn cael hyfforddiant ar arweiniad ynglyn â thrwyddedau agored, ac yn cael dysgu sut i rannu gyda, neu gyfrannu at brosiectau Wicimedia (e.e. Comin, Wicipedia Cymraeg, Wicidata) ar drwydded agored addas Comin Creu (Creative Commons). Dysgir sut i wneud hyn ar ffurf ddigidol ffilm a chlipiau sain, eitemau radio, darnau ysgrifenedig a lluniau, fel bod gwybodaeth, dealltwriaeth a hanes yn cael ei rannu â phawb, er mwyn cyfoethogi defnydd o’r Gymraeg ar y safle.
  • O ganlyniad i’r uchod, fe fydd y bobl ifanc yn cael hyfforddiant uwchwlytho gwybodaeth i Wicipedia a bydd yn eu hannog a’u galluogi i ddod yn ddinasyddion Cymraeg hyderus sydd yn falch o’u treftadaeth.

Prosiect Wici YSGOL SYR THOMAS JONES, Amlwch

golygu

Y bwriad yw cyfoethogi a chreu erthyglau ar dref hanesyddol Amlwch a'r dalgylch. Mae angen mwy o erthyglau am hanes mwyngloddio Amlwch ac yn enwedig yn ystod y chwildro diwydiannol. Mae criw o'r chweched dosbarth yn Ysgol Syr Thomas Jones yn defnyddio eu hamser i ymchwilio i mewn i'r hanes a gobeithio ysgrifennu erthyglau sydd yn mynd i ddiddori ac addysgu. Rydym yn cydweithio efo'r amgueddfa Y Deyrnas Gopr yn Amlwch.

Erthyglau YSGOL SYR THOMAS JONES

golygu

Prosiect Wici YSGOL GYFUN LLANGEFNI, Llangefni

golygu

Y bwriad yw cyfoethogi a chreu erthyglau ar dref hanesyddol Llangefni a'r dalgylch. Mwy i ddilyn...

Erthyglau YSGOL GYFUN LLANGEFNI

golygu

Prosiect Wici YSGOL DAVID HUGHES, Porthaethwy

golygu

Y bwriad yw cyfoethogi a chreu erthyglau ar dref hanesyddol Porthaethwy a'r dalgylch. Mwy i ddilyn...

Aelodau prosiect WiciMôn

golygu
  1. Defnyddiwr:Llywelyn2000
  2. Defnyddiwr:ElmondPD
  3. Defnyddiwr:Monwr36
  4. Defnyddiwr:ClecvolHAT
  5. Defnyddiwr:Mam Cymru
  6. Defnyddiwr:Owain lloyd
  7. Defnyddiwr:Annwern
  8. Defnyddiwr:Cwldwd
  9. Defnyddiwr:Seithlliw
  10. Defnyddiwr:Mechell2017
  11. Defnyddiwr:Monsyn
  12. Defnyddiwr:ArglwyddesCywarch
  13. Defnyddiwr:Lclh01
  14. Defnyddiwr:Meg3456
  15. Defnyddiwr:A41437
  16. Defnyddiwr:Pry Bach
  17. Defnyddiwr:Dim Byd
  18. Defnyddiwr:Salimali321
  19. Defnyddiwr:Nodi2001
  20. Defnyddiwr:Ybwda
  21. Defnyddiwr:Llipryn14
  22. Defnyddiwr:Rwdlan1505
  23. Defnyddiwr:Jacyjwc321
  24. Defnyddiwr:Mursen
  25. Defnyddiwr:Llyn123
  26. Defnyddiwr:Neb o Gwbl

Promo WiciMon

golygu


Cyfarwyddiadau

golygu
  • Categori i'w gopio a'i bastio ar waelod pob tudalen:
[[Categori:Prosiect Wici Môn]]