Pobl Dyrcig sy'n byw yn Xinjiang, rhanbarth hunanlywodraethol o fewn Gweriniaeth Pobl Tsieina, yw'r Wigwriaid.[1] Mae tua 31.4 miliwn ohonynt i gyd, 28.82 miliwn o'r rhain yn Xinjiang, lle maent yn ffurfio 45% o'r boblogaeth. Siaradant Wigwreg, sy'n un o'r ieithoedd Twrcaidd, ac maent yn ddilynwyr Islam o ran crefydd.

Wigwriaid
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MathPobl Twrcaidd Edit this on Wikidata
MamiaithUyghur, tsieineeg edit this on wikidata
Poblogaeth12,314,800 Edit this on Wikidata
CrefyddSunni edit this on wikidata
Rhan oPobl Twrcaidd Edit this on Wikidata
GwladwriaethGweriniaeth Pobl Tsieina, Casachstan, Cirgistan, Wsbecistan, Rwsia, Tyrcmenistan Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Merch ifanc o Uighur

Ceir mudiad cenedlaethol ymhlith yr Wigwriaid sy'n anelu at annibyniaeth i Xinjiang dan yr enw Dwyrain Tyrcestan. Yn y blynyddoedd diwethaf, mewnfudodd nifer fawr o Tsieineaid Han i Xinjiang, a bu cryn dipyn o dyndra ethnig rhyngddynt hwy a'r Wigwriaid, gydag ymladd ar y strydoedd ym mis Gorffennaf 2009. Maent yn dioddef hil-laddiad o dan reolaeth China.

Protest gan Wigwriaid ym München, 2008, gyda Baner Dwyrain Tyrcestan.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [Uighur, Uigur].