William Bidlake
Pensaer Seisnig oedd William Henry Bidlake (12 Mai 1861 – 6 Ebrill 1938), ffigwr arweiniol yn y Mudiad Celf a Chrefft ym Mirmingham a Cyfarwyddwr yr Ysgol Pensaerniaeth yn Ysgol Celf Birmingham rhwng 1919 a 1924.
William Bidlake | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mai 1861 Wolverhampton |
Bu farw | 6 Ebrill 1938 Wadhurst |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | pensaer |
Adnabyddus am | Mortuary Chapel, Handsworth Cemetery |
Gwobr/au | Cymrawd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain |
Ymddangosodd nifer o dai Bidlake yn ardal Birmingham yn llyfr Hermann Muthesius Das englischer Haus ("Y Tŷ Seisnig"), a brofodd yn ddylanwadol yn y Symudiad Cyfoes yn yr Almaen.
Bywyd a gyrfa
golyguGaned Bidlake yn Wolverhampton, yn fab i bensaer lleol, George Bidlake (a roddodd iddo ei hyfforddiant pensaernïol cynnar), a chafodd ei addysg yng Ngholeg Tettenhall a Choleg Crist, Caergrawnt. Ym 1882 symudodd i Lundain i astudio yn Ysgollion yr Academi Frenhinol a gweithiodd i'r benseiri yr Adfywiad Gothig, Bodley a Garner. Yn 1885, enillodd Gymrodoriaeth Teithio Pugin RIBA am ei ddrafftsmonaeth, a alluogodd ef i wario 1886 yn teithio yn yr Eidal.
Dychwelodd i Loegr yn 1887 gan fyw ym Mirmingham ar ei ben ei hun, o 1893, arloesodd dysgu pensaernïaeth yng Ngholeg Celf Birmingham. Roedd yn enwog am ei aml-deheurwydd; ei dric oedd i ddarlunio gyda'i ddwy law yn gydamserol.
Dyluniodd Bidlake nifer o dai dan ddylanwad y Mudiad Celf a Chrefft yn yr ardaloedd o gwmpas Birmingham megis Edgbaston, Moseley a Four Oaks, ynghyd â chyfres o eglwysi â dylanwad Gothig megis Eglwys Santes Agatha, Sparkbrook; caiff yr eglwys hon ei hystyried yn gyffredinol fel campwaith Bidlake.
Priododd Bidlake ddynes dros ugain mlynedd yn ifengach nag ef yn 1924, a symudodd i Wadhurst yn Nwyrain Sussex, lle cariodd ymlaen i weithio hyd ei farwolaeth yn 1938.
Prif weithiau
golygu- Coleg Celf, Balsall Heath, Birmingham (1899) (Gradd II)
- Garth House, 47 Edgbaston Park Road, Edgbaston, Birmingham (1901) (Gradd II)
- Eglwys Santes Agatha, Stratford Road, Sparkbrook, Birmingham (1901) (Gradd I)
- 100 Sampson Road, Sparkbrook, Birmingham (St Agatha's Vicarage) (1901) (Gradd II)
- Eglwys Sant Andrew, Oxhill Road, Handsworth, Birmingham (1907-9) (Gradd I)
- Eglwys Santes Fair, Wythall, Swydd Gaerwrangon (To a thyred stâr)[1]
- Eglwys Sant Oswald, Small Heath, Birmingham (1892-9) (Gradd II)
- Eglwys Sant Thomas, Stourbridge. cromfan (1890), sgrîn y canghell gogleddol (dim dyddiad).[2]
- Woodgate, 37 Hartopp Road, Four Oaks, Sutton Coldfield (1900) – Adeiladwyd ar ei gyfer ef ei hun (Gradd II)
- Eglwys Emmanuel, Wylde Green, Sutton Coldfield (1909) (Gradd C)
Cyfeiriadau
golyguFfynonellau
golygu- Foster, Andy. Pevsner Architectural Guides: Birmingham. Yale University Press: New Haven & London, 2005 ISBN 0-300-10731-5
- Crawford, Alan (gol.). By Hammer and Hand: The Arts and Crafts Movement in Birmingham. Birmingham Museums and Art Gallery, 1984 ISBN 0-7093-0119-7