William Henry Scourfield

Roedd William Henry Scourfield (1776 - 31 Ionawr 1843) yn wleidydd a thirfeddiannwr Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaeth Hwlffordd rhwng 1818 a 1826 ac eto rhwng 1835 a 1837.[1]

William Henry Scourfield
Ganwyd1776 Edit this on Wikidata
Sir Benfro Edit this on Wikidata
Bu farw31 Ionawr 1843 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolTori Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Roedd Scourfield yn fab i Henry Scourfield ac Elizabeth ei wraig (merch y Parch John Ewer, Archesgob Bangor), o deulu Scourfield y Mot a Neuadd Robeston Sir Benfro.

Derbyniodd Scourfield ei addysg yng Ngholeg Newydd, Rhydychen[2].

Ar 27 Hydref 1804 priododd Maria Goate, merch Lt Cyrnol Edward Goate, Brent Hall, Eleigh, Suffolk, bu iddynt fab a fu farw o flaen ei rieni. Bu farw Maria ym 1835, ym 1837 priododd Louisa Sarah merch Richard Bowen, Maenorowen, ni fu plant o'r ail briodas. Symudodd tad Scourfield o'r cartref teuluol, Plasty New Moat yn y Mot i Neuadd Robeston ger Aberdaugleddau, ond dychwelodd Scourfield i Neuadd New Moat ar farwolaeth ei dad ym 1810 a mynd ati i ailadeiladu hen ystâd, y Mot.

Gyrfa Seneddol golygu

Roedd Scourfield yn Dori a oedd wedi rhoi cefnogaeth i'r Arglwyddi Aberdaugleddau a Kensington, dau o Dorïaid amlycaf Sir Benfro yn eu hetholiadau hwy fel ymgeiswyr yn etholaethau Sir Benfro a Hwlffordd bu hefyd yn gefnogol i John Fredrick Cambell (Iarll 1af Cawdor wedi hynny) yn ei ymgyrch aflwyddiannus ym 1812 i geisio ennill sedd sir Gaerfyrddin. Ym 1816 bu rhwyg rhwng Arglwydd Aberdaugleddau ac Arglwydd Kensington, gan hynny penderfynodd Aberdaugleddau a Cowdor i gefnogi Scourfield fel aelod Hwlfford a phenderfynodd Kensington nad oedd modd cadw'r sedd heb gefnogaeth ei gynghreiriaid; tynnodd allan o'r ras gan alluogi Scourfield i ennill y sedd yn ddiwrthwynebiad.

Cadwodd gafael ar y sedd hyd 1826, erbyn etholiad 1826 roedd Richard Phillips, cefnder ac etifedd Arglwydd Kensington wedi tyfu'n oedolyn ag awydd gwasanaethu yn y Senedd, bu'n rhaid i Scourfield ildio ei sedd i etifedd ei noddwr.

Ym 1835 fe benderfynodd Jonathan Peel o Cotts, car i Syr Robert Peel herio am enwebiad Rhyddfrydol Hwlffordd ar sail diffyg sylw Phillips i'w dyletswyddau seneddol a'i gyfnodau hir o absenoldeb o'i etholaeth trwy grwydro Ewrop. Gan ofni nad oedd modd iddo dal gafael ar y sedd tynnodd Phillips allan o'r ras gan roi ei gefnogaeth i'r ymgyrch llwyddiannus i ailethol Scourfield. Yn etholiad 1837 collodd Scourfield y sedd wedi i Phillips penderfynu ail ymgiprys amdani[3]

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Benfro ym 1812.

Marwolaeth golygu

Bu farw Scourfield heb etifedd ym 1843 a gadawodd ei ystâd i'w chwaer, Elizabeth Anne Scourfield. Roedd hi'n briod â Cyrnol Owen Phillips o Williamston a bu iddynt hwy adael y Mot i'w mab, John Henry Phillips (1808-1876) a gymerodd y cyfenw Scourfield ym 1862 ac a wasanaethodd fel AS Hwlffordd 1852 - 1868 a Sir Benfro 1868 - 1876.

Cyfeiriadau golygu

  1. Thorne, R.G. "Scourfield, William Henry (1776-1843), of Robeston Hall, Robeston West and New Moat, Pemb". historyofparliamentonline.org. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2016.
  2. Cymdeithas hanes Teuluoedd Dyfed Dyfed Alumni Oxonienses 1715–1886 Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 10 Gorffennaf 2016
  3. Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895.... adalwyd 10 Gorffennaf 2016
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William Edwardes, 2il Farwn Kensington
Aelod Seneddol Hwlffordd
18181826
Olynydd:
Richard Phillips
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Richard Phillips
Aelod Seneddol Hwlffordd
18351837
Olynydd:
Richard Phillips