William Jones (AS Arfon)

aelod seneddol

Roedd William Jones (18599 Mai 1915) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol dros etholaeth Arfon[1]

William Jones
Ganwyd1859 Edit this on Wikidata
Llangefni Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mai 1915 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Athrolys Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, athro Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.

Bywyd personol

golygu

Ganwyd William Jones ym 1857 yn y Ceint Bach ym Mhlwyf Penmynydd, Sir Fôn yn fab i Richard ac Alice Jones. Bu farw ei dad pan nad oedd William ond 3 mlwydd oed a symudodd y teulu i fyw yn Llangefni.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Llangefni lle fu hefyd yn ddisgybl athro cyn mynd i hyfforddi fel athro yng Ngholeg Normal, Bangor.[2]

Cafodd ei swydd gyntaf fel athro yng Ngoginan Ceredigion lle fu'n dysgu o 1875 i 1879; aeth oddi yna i ddysgu mewn ysgol yn Llundain. Ym 1888 symudodd i Rydychen lle fu'n athro preifat yn rhoi hyfforddiant i fyfyrwyr a oedd yn dymuno mynd yn athrawon

Gyrfa wleidyddol

golygu

Chwaraeodd rhan amlwg yng ngwleidyddiaeth Ryddfrydol gan gynorthwyo David Lloyd George a Thomas Edward Ellis yn eu hymgyrchodd etholiadol, yr oedd hefyd yn areithiwr poblogaidd mewn cyfarfodydd y blaid.

Safodd etholiad am y tro cyntaf yn etholiad cyffredinol 1895 fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Arfon gan lwyddo cadw'r sedd i'r Blaid Ryddfrydol. Parhaodd i wasanaethu'r etholaeth fel Aelod Seneddol hyd ei farwolaeth ym 1915. Gwasanaethodd fel is weinidog yn y trysorlys ac fel chwip yr aelodau Rhyddfrydol Cymreig o 1911 hyd ei farwolaeth.

Marwolaeth

golygu

Bu farw Jones ym Mangor ym 1915 a'i gladdu yn Llangefni; yr oedd yn di briod.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "JONES, WILLIAM (1857-1915)", yn Y Bywgraffiadur arlein [1], adalwyd 14 Ionawr 2015
  2. "Marwolaeth William Jones AS", Y Dydd, 14 Mai 1915 [2], adalwyd 14 Ionawr 2015
  3. "Marw Mr William Jones", Y Clorianydd, 12 Mai 1915 [3], adalwyd 14 Ionawr 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William Rathbone
Aelod Seneddol dros Arfon
18951915
Olynydd:
Griffith Caradoc Rees