William Jones (Gweinidog y Bedyddwyr Albanaidd)
Roedd William Jones (17 Mehefin 1762 – 21 Ionawr 1846) yn llyfrwerthwr o Gymru, yn awdur crefyddol. Roedd yn arweinydd eglwys y Bedyddwyr Albanaidd yn Finsbury, Llundain.[1]
William Jones | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mehefin 1762 Gresffordd |
Bu farw | 21 Ionawr 1846 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, golygydd, llenor |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.
Bywyd
golyguGaned Jones yng Ngresffordd, yn fab i William a Mary Jones, cafodd ei fagu yn Poulton, Swydd Gaer. Dechreuodd weithio fel prentis yng Nghaer ym 1780, a daeth ar draws cynulleidfa o Fedyddwyr yno. Ym 1782–3 symudodd i Lundain, lle bu yng nghynulleidfa Abraham Booth, gan ddychwelyd i Gaer ar ôl tua blwyddyn.[2]
Daeth Jones o dan ddylanwad Archibald McLean (sefydlwr enwad y Bedyddwyr Albanaidd). Bu McLean yn pregethu yng Nghaer am rai wythnosau yn nhymor yr hydref, 1786, a bedyddiwyd Jones ganddo. Ymunodd y gynulleidfa leol â'r Bedyddwyr Albanaidd.[2]
Symudodd Jones i Lerpwl i weithio fel llyfrwerthwr yn Castle Street, ym 1793, gan brynu'r busnes gan ei frawd-yng-nghyfraith, a chyhoeddi gwaith McLean A Defence of Believer-Baptism. Yn y cyfnod hwn cynhaliodd gyfarfodydd crefyddol yn ei gartref, efallai ei fod hefyd yn mynychu oedfaon Samuel Medley hefyd. Ar ddiwedd y 1790au sefydlodd McLean gynulleidfa yn Lord Street Lerpwl, gyda J. R. Jones, Ramoth. Roedd William Jones yn flaenor yn yr eglwys hon.[1]
Ym 1812 symudodd Jones i Lundain, gan weithio fel llyfrwerthwr. Bu'n weinidog lleyg yr eglwys yn Windmill Street, Finsbury, am weddill ei oes.[1][2] Erbyn diwedd y 1820au, gan ddioddef trafferthion ariannol, wnaeth Jones ymgymryd â'r gwaith o ysgrifennu llyfrau i Thomas Tegg.[3] Y myfyriwr celf Americanaidd Peyton C. Wyeth a gyflwynodd Jones i Alexander Campbell yng nghanol y 1830au.[4]
Gweithiau
golyguPrif weithiau Jones oedd:
- Life of Abraham Booth, 1808.
- History of the Waldenses, 1812, ailgyhoeddwyd fel History of the Christian Church, 1817 (4ydd argraffiad, 1819); sydd weithiau'n cael ei dadogi ar gam i William Jones, Nayland.
- Biblical Cyclopædia, 1816.
- Dictionary of Religious Opinions, 1817.
- Christian Biography, 1829.
- Autobiography, (golygwyd gan ei fab) 1846.
Golygodd Jones hefyd gyfres o gyfnodolion roedd Theological Repository (1800) a Christian Advocate (1809) o'i gyfnod yn Lerpwl.[2] Yn Llundain golygodd y New Evangelical Magazine a newidiodd ei henw i'r New Baptist Magazine ym 1825. Daeth y cylchgrawn i ben ym 1826.[5][6] Wedyn cyhoeddodd a golygodd The Baptist Miscellany and Particular Baptist Magazine (cychwynnwyd ym 1827, gan redeg am chwe mlynedd).[3]
Ym 1829 cyhoeddodd Jones ddarlithoedd ar yr Apocalypse.[7] Cyflwynodd ei Millennial Harbinger (1835) damcaniaethau Alexander Campbell. Yn ddiweddarach bu rhwyg rhwng Jones a Campbell. Yn gyffredinol, cyhoeddodd Jones ddeunydd a oedd yn cefnogi'r Bedyddwyr Albanaidd. Roedd yn gefnogol i'r mudiad oedd am adfer yr eglwys i symlrwydd yr eglwys fore yng Nghyfnod yr Apostolion. Roedd yn gwrthwynebu crefydd sefydledig. Roedd gan ei gyhoeddiadau a olygodd gylchrediad eang yn yr Alban.[1]
Golygodd Jones weithiau Archibald McLean a Samuel Stennett.[8][9] Ysgrifennodd gofiannau i Adam Clarke, Rowland Hill, ac Edward Irving.[10]
Teulu
golyguPriododd Jones â Maria Crane, merch Thomas Crane, aelod o'i gynulleidfa yng Nghaer, ym 1786.[11]
Marwolaeth
golyguBu farw yn Llundain yn 83 mlwydd oed a chladdwyd ei gweddillion ym mynwent Bunhill Fields.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Jones, J. I., (1953). JONES, WILLIAM (1762 - 1846), gweinidog Bedyddwyr Albanaidd, golygydd, ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 25 Maw 2020
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Timothy D. Whelan (2009). Baptist Autographs in the John Rylands University Library of Manchester, 1741-1845. Mercer University Press. t. 410. ISBN 978-0-88146-144-2.
- ↑ 3.0 3.1 The Wesleyan methodist association magazine. 1846. t. 354.
- ↑ John Renwick (April 2010). Reformation to Restoration: The Restoration Ideal in Europe from the 16th to the 19th Century and the Rise of New Testament Churches in Britain and America with a Special Focus O. iUniverse. t. 39. ISBN 978-1-4502-2412-3.
- ↑ Baptist Magazine and Literary Review. J. Burditt and W. Button. 1846. t. 538.
- ↑ William Thomas Whitley (1916). A Baptist Bibliography. Georg Olms Verlag. t. 225. ISBN 978-3-487-41340-2.
- ↑ Samuel Austin Allibone (1859). A Critical Dictionary of English Literature, and British and American Authors, Living and Deceased, from the Earliest Accounts to the Middle of the Nineteenth Century: Containing Thirty Thousand Biographies and Literary Notices, with Forty Indexes of Subjects. Trübner. t. 995.
- ↑ (Saesneg) "McLean, Archibald". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ (Saesneg) "Stennett, Joseph". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ William Cathcart (1 April 2001). The Baptist Encyclopedia -. The Baptist Standard Bearer, Inc. t. 622. ISBN 978-1-57978-910-7.
- ↑ Timothy D. Whelan (2009). Baptist Autographs in the John Rylands University Library of Manchester, 1741-1845. Mercer University Press. t. 39 note 171, 410. ISBN 978-0-88146-144-2.