Gresffordd

pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Gresffordd[1] (Saesneg: Gresford).[2] Yn y Cyfrifiad 2011, roedd gan y gymuned boblogaeth o 5,010 (2011)[3].

Gresffordd
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,010 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd909.75 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.087°N 2.966°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000895 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ353549 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auLesley Griffiths (Llafur)
AS/auSarah Atherton (Ceidwadwyr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lesley Griffiths (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Sarah Atherton (Ceidwadwyr).[4][5]

Trychineb Glofa Gresffordd golygu

Ar 22 Medi 1934, collodd 266 o bobl eu bywydau mewn trychineb yn y lofa leol. Roedd y danchwa hon yn un o drychinebau pyllau glo mwyaf erchyll yn hanes gwledydd Prydain, os nad Ewrop. Digwyddodd y drychineb yn ystod y sifft nos, pan oedd tua 500 o lowyr yn gweithio dan y ddaear, llawer ohonynt yn gweithio sifftiau dwbl. Hyd heddiw, does neb yn gwybod beth achosodd y ffrwydrad nwy a laddodd cymaint ohonynt. Bu'n rhaid cau'r lofa lle digwyddodd y drychineb am gryn amser rhag ofn y digwyddai ffrwydriadau eraill ac o ganlyniad bu raid gadael 254 o gyrff yn y pwll.

Eglwys yr Holl Saint golygu

Mae clychau Eglwys yr Holl Saint, Gresffordd yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Gresffordd (pob oed) (5,010)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Gresffordd) (506)
  
10.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Gresffordd) (2719)
  
54.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Gresffordd) (771)
  
36.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 16 Tachwedd 2021
  3. https://www.nomisweb.co.uk/reports/localarea?compare=W04000895.
  4. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]