William Morris Lewis
Roedd Y Parch. William Morris Lewis (9 Mai 1839 – 26 Mai 1917) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Cymreig ac yn awdur.[1]
William Morris Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mai 1839 Abergwaun |
Bu farw | 26 Mai 1917 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Cefndir
golyguGanwyd Lewis yn Abergwaun, yr hynaf o bump o feibion y Parch. Enoch Lewis, a oedd hefyd yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac Ann (née Griffiths) ei wraig. Fe'i haddysgwyd mewn ysgol ramadeg yn Abergwaun o dan ofal Dr George Rees, lle fu'n dysgu Lladin a Groeg. Bu mor llwyddiannus yn ysgol Dr Rees fel cafodd mynediad i Goleg y Bala, pan nad oedd ond 14 mlwydd oed.[2]. Roedd yn yr un dosbarth yn y Bala a Thomas Charles Edwards,[3] mab hynaf pennaeth y coleg Dr Lewis Edwards.[4] Daeth y ddau gyd efrydydd yn gyfeillion oes.
Torrodd iechyd Lewis yn y Bala, a bu'n rhaid i'w dad mynd bob cam o Abergwaun i'w gyrchu adref ar ôl dim ond blwyddyn. Roedd y tad mor bryderus bod ei fab ar fin marw, fel y newidiodd ei wallt ei liw ar y daith honno.[2] Parhaodd ei gystudd am ddwy flynedd. Wedi gwella aeth Lewis i Ysgol Normal Abertawe ym 1856, dan ofal Dr Evan Davies i baratoi ar gyfer yr arholiad i gael ei dderbyn i mewn i Goleg Trefeca. Aeth i Drefeca ym 1857, ond dim ond flwyddyn bu ei gyfnod yno hefyd. Bu farw ei dad ar 27 Mehefin 1858 a bu raid i Lewis dychwelyd adref i gynorthwyo ei fam i redeg y siop roedd yn cadw.[5]
Priodas
golyguYchydig ar ôl dychwelyd adref priododd Lewis â Letitia Maria Lloyd, merch W H Lewis Long House, Tre-fin ym mis Hydref 1859.[6] Bu iddynt wyth o blant. Fel gwaddol priodas cafodd rhydd feddiant fferm Tŷ Llwyd, Treffynnon, Sir Benfro ac yno fu'n byw am weddill ei ddyddiau. Bu farw Mrs Lewis 10 Rhagfyr 1909.[7]
Gyrfa
golyguDechreuodd Lewis bregethu pan oedd tua 19 mlwydd oed ym 1857/58. Cafodd ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth yn Llanilltud Fawr ym 1863. Yn hytrach na derbyn galwad i fod yn weinidog ar un o gapeli ei gyfundeb, penderfynodd adeiladu capel ar ei dir ei hun, sef Capel Treffynnon, a adeiladodd ym 1867 ac a helaethodd ym 1876.[8] Treffynnon bu ei unig ofalaeth trwy gydol ei weinidogaeth.
Gwasanaethodd Lewis ei gymdeithas lleol trwy wasanaethu am nifer o flynyddoedd fel aelod o fwrdd warcheidwaid y tlodion Hwlffordd.[9] Ym 1893 gwasanaethodd fel Llywydd y Gymdeithasfa Fethodistaidd.[10]
Roedd Lewis yn cael ei ystyried fel diwinydd heb ei ail yn ei ddydd. Cyhoeddwyd nifer o'i ysgrifau diwinyddol yn Y Traethodydd, Y Drysorfa a chylchgronau Cristionogol eraill yng Nghymru a Lloegr. Traddododd darlith flynyddol y Gymdeithasfa, y Ddarlith Davies, ym 1900 ar bwnc "edifeirwch". Bu am nifer o flynyddoedd yn gohebu efo'r Dr Thomas Charles Edwards ar y ddadl o bwy oedd awdur yr Epistol at yr Hebreaid yn y Testament Newydd. Y farn draddodiadol oedd mai'r Apostol Paul, oedd awdur y llythyr. Mor gynnar â'r 3edd ganrif OC bu rhai yn codi amheuon parthed ei awduraeth.[11] Erbyn diwedd y 19 ganrif y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion oedd bod yr awdur yn anhysbys, ond yn bendant nid Paul ydoedd,[12] roedd Edwards yn derbyn y farn yma. Roedd Lewis yn glynu at y farn draddodiadol mae Paul oedd yr awdur. Bu cymaint o ohebiaeth rhyngddynt ar y pwnc fel o'r diwedd y gofynnodd Edwards i Lewis i beidio ysgrifennu mwy ato ynghylch y cwestiwn. Yn hytrach nag ildio ar y ddadl, trefnodd Lewis ei ohebiaeth yn gyfres o erthyglau Saesneg a chyhoeddwyd yn y cylchgrawn diwinyddol The Thinker. Derbyniodd yr erthyglau cymeradwyaeth gan nifer o arweinwyr Cristionogaeth traddodiadol megis Syr William Mitchell Ramsay [13] a'r Athro Henry Melvill Gwatkin [14] o Brifysgol Caergrawnt. Cafwyd cyfieithiadau o'r erthyglau mewn cylchgrawn yn yr Almaen. Y dadleuon a gyhoeddwyd gan Lewis yn The Thinker parthed awduriaeth Paul o Hebreaid yw'r rhai sy'n cael eu defnyddio hyd heddiw gan efengylwyr sy'n glynu at y traddodiad.
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref Tyllwyd, Treffynnon yn 78 mlwydd oed,[15] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent ei gapel yn Nhreffynnon gyferbyn a'i diweddar wraig.[16]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ LEWIS, WILLIAM MORRIS (1839 - 1917), gweinidog (MC). Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 21 Tachwedd 2020
- ↑ 2.0 2.1 Y Traethodydd Cyf. LXXIII (VI) (326-329), 1918. Atgofion am Y Parch W. M. Lewis, Tyllwyd gan William Evans, Doc Penfro Adferwyd 21 Tachwedd 2020
- ↑ EDWARDS, THOMAS CHARLES (1837 - 1900), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, esboniwr a phregethwr, prifathro cyntaf y Coleg Cenedlaethol, Aberystwyth (1872-91), ac ail brifathro Athrofa'r Bala (1891-1900). Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 21 Tachwedd 2020
- ↑ EDWARDS, LEWIS (1809 - 1887), prifathro Coleg y Bala am 50 mlynedd, athro a diwinydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 21 Tachwedd 2020
- ↑ "PARCH W M LEWIS TYLLWYD - Y Goleuad". John Davies. 1917-06-01. Cyrchwyd 2020-11-21.
- ↑ Trysorfa y Plant Cyf. XXXIX Rhif. 463 - Gorffennaf 1900 Y PARCH. W. MORRIS LEWIS, TYLLWYD Adferwyd 21 Tachwedd 2020
- ↑ "THE LATE MRS LEWIS TYLLWYD - The Pembroke County Guardian and Cardigan Reporter". Henry Whiteside Williams. 1909-12-24. Cyrchwyd 2020-11-21.
- ↑ Coflein Capel Treffynnon Adferwyd 21 Tachwedd 2020
- ↑ "HAVERFORDWEST BOARD OF GUARDIANS - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1880-07-16. Cyrchwyd 2020-11-21.
- ↑ Y Cylchgrawn Cyf. 2 rhif. 10 - Hydref 1892 CYMDEITHASFA MAESTEG Adferwyd 21 Tachwedd 2020
- ↑ Alan C. Mitchell, Hebrews (Liturgical Press, 2007) Tud 2.
- ↑ "Introduction to the Letter to the Hebrews" Adferwyd 21 Tachwedd 2020
- ↑ "Ramsay, Sir William Mitchell (1851–1939), classical scholar and archaeologist". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/35664. Cyrchwyd 2020-11-21.
- ↑ "Gwatkin, Henry Melvill (1844–1916), historian and theologian". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/33618. Cyrchwyd 2020-11-21.
- ↑ "Y PARCH WILLIAM LEWIS TYLLWYD - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1917-05-30. Cyrchwyd 2020-11-21.
- ↑ "CLADDEDIGAETH Y PARCH W M LEWIS TYLLWYD - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1917-06-06. Cyrchwyd 2020-11-21.