Awdur Rwsiaidd-Almaenig yw Wladimir Kaminer (Rwsieg Владимир Каминер); ganed 19 Gorffennaf 1967 ym Moscfa). Mae'n golofnydd, awdur straeon byrion ac yn DJ.

Wladimir Kaminer
GanwydВладимир Викторович Каминер Edit this on Wikidata
19 Gorffennaf 1967 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Theater Arts and Technical College Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, newyddiadurwr, peiriannydd sain, troellwr disgiau Edit this on Wikidata
Adnabyddus amRussian Disco Edit this on Wikidata
PriodOlga Kaminer Edit this on Wikidata
Gwobr/auBen-Witter-prize, Berliner Bär Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.wladimirkaminer.de/ Edit this on Wikidata

Mae ei deulu o darddiad Iddewig yn Rwsia. Cafodd ei eni ym Moscfa. Yno astudiodd dechnoleg sain cyn droi at y theatr yn Sefydliad Drama Mosgfa.

Wedi cwymp Mur Berlin symudodd i'r DDR (Dwyrain yr Almaen), lle cafodd ddinasyddiaeth misoedd cyn yr aduniad Almaenig. Daeth yn ddinasydd yr Almaen yn syth wedyn. Sefydlodd ei hun ym Marzahn, Berlin, ym 1990. Daeth yn ffigwr enwog ymhlith llenorion Berlin yn y clwb Kaffee Burger. Mae'n cyfrannu i gylchgronnau llenyddol, ac mae ganddo sioe radio Wladimir's World, ar Rundfunk Berlin-Brandenburg. Mae Kaminer hefyd yn DJ ar ei "Russendiskos" ei hun ac mae'n chwarae dim ond cerddoriaeth Rwseg. Er mai'r Rwseg yw ei famiaith mae'n sgwennu yn yr Almaeneg yn unig, ac yn aml yn ysgrifennu am sefyllfa y mewnfudwyr o Rwsia.

Yn 2006 penderfynnodd sefyll fel Maer Berlin; ers hyn mae wedi treulio ei amser yn siarad i gylchoedd llenyddol drwy'r byd Almaeneg. Cadwodd ddyddiadur, nodiadau a gyhoeddwyd yn nes ymlaen yn ei gasgliad Deutsches Dschungelbuch ("Jwngl-lyfr Almaenig"). Mae'n un o nifer o awduron tramor sy wedi cyfrannu at lenyddiaeth Almaeneg ers 2000, fel Rafik Schami ac awduron eraill y grwp Sudwind ('Gwynt y De').

Llyfryddiaeth

golygu

Gwaith Kaminer

golygu
  • Russendisko (2000), fersiwn Saesneg fel Russian Disco (2002) a ddaeth wedyn yn ffilm llwyddiannus.
  • Schönhauser Allee (2001)
  • Militärmusik (2001)
  • Die Reise nach Trulala (2002)
  • Mein deutsches Dschungelbuch (2003)
  • Ich mache mir Sorgen, Mama (2004)
  • Karaoke (2005)
  • Küche totalitär. Das Kochbuch des Sozialismus (2006)
  • Ich bin kein Berliner. Ein Reiseführer für faule Touristen (2007)
  • Mein Leben im Schrebergarten (2007)
  • Es gab keinen Sex im Sozialismus (2009)
  • Debbie Macht Dallas (1998)
  • Ich bin kein Berliner: Ein Reiseführer für faule Touristen Munich: Goldmann. ISBN 978-3-442-54240-6.

Erthyglau

golygu
  • Wladimir Kaminer: deutsch-russischer Schriftsteller. Profile ar munzinger.de.
  • 'Immigrieren geht einfacher als eine Ausstellung darüber zu machen', Georg Klein, Jüdische Zeitung, Ebrill 2010. Darllenwyd Medi 2010.
  • 'Kaminer macht die Heimat dicht Anne Lena Mösken', Berliner Zeitung, 27 Ebrill 2007. Darllenwyd Medi 2010.
  • 'Kaminer will Wowereit beerben', Der Spiegel, 23 Hydref 2006. Darllenwyd Medi 2010.