Wynne Roberts
Hypnotydd Cymreig oedd Wynne Roberts (c1943 - 4 Mawrth, 2009).[1] Roedd yn enwog am ei sioeau llwyfan difyrrus ond bu hefyd yn gweithio fel arbenigwr hypnotherapi i'r grŵp feddygol BUPA.[2]
Wynne Roberts | |
---|---|
Ganwyd | c. 1943 |
Bu farw | 4 Mawrth 2009 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hypnotist |
Cafodd Roberts ei eni yng Nghaergybi[3] ac yn hwyrach yn ei fywyd bu'n byw yn Wrecsam am rai blynyddoedd cyn symud i Brestatyn.[2] Yn ei arddegau gweithiodd fel porthor mewn gwesty a dechreuodd gweithio fel hypnotydd ar ôl treulio saith mis mewn mynachlog yn Nhibet.[4]
Yn y 1970au cafodd ei gynnwys yn y Guinness Book of World Records am y cyfnod o amser yr oedd yn gallu canu'r drymiau.[1]
Roedd Roberts yn aelod o FESH (Federation of Ethical Stage Hypnotists) ac fe enillodd wobrau am ei sioe lwyfan gan gynnwys Sioe Cabaret Orau a Sioe Cabaret Ryngwladol Orau.[2] Cyflwynodd y rhaglen Y Sioe Anghyffredin ar S4C ac roedd yn gyfrannwr rheolaidd i BBC Radio Cymru.[2]
Ar ôl ffrwydradau terfysgol yn Llundain yn 2005 bu'n defnyddio hypnotherapi i gwnsela rhai a ddioddefodd yn y cyrchoedd.[2] Bu Roberts hefyd yn defnyddio hypnotherapi ar filwyr ag anafwyd yn rhyfeloedd Irac ac Afghanistan.[3]
Roedd Roberts yn briod i'w wraig Linda ac yn dad i bedwar o blant, Vicky, Bruce, Paul, a Melissa.[1] Bu farw ym Mawrth 2009 o ganser.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Tributes to record breaking Wrexham entertainer and hypnotherapist. Evening Leader (6 Mawrth, 2009). Adalwyd ar 12 Mawrth, 2009.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Hypnotydd enwog yn marw. BBC (5 Mawrth, 2009). Adalwyd ar 5 Mawrth, 2009.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Hypnotist offers therapy to Army amputees. Daily Post (27 Rhagfyr, 2007). Adalwyd ar 5 Mawrth, 2009.
- ↑ (Saesneg) Wynne Roberts. Clic Agency. Adalwyd ar 5 Mawrth, 2009.