Y Barddoniadur Cymmreig

Llyfr beirniadaeth lenyddol Cymraeg gan William Williams (Creuddynfab) yw Y Barddoniadur Cymmreig, a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol yn 1855 a 1857.[1] Yn ôl Saunders Lewis, hwn oedd "un o'r ychydig bethau pwysig mewn beirniadaeth Gymraeg rhwng Goronwy Owen ac Emrys ap Iwan."[1]

Y Barddoniadur Cymmreig
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata

Roedd cryn fri i Greuddynfab fel beirniad llenyddol yn ei gyfnod. Roedd o blaid y mesurau rhydd newydd yn enwedig y delyneg gan ymosod ar y beirdd Neo-Glasuraidd fel Caledfryn. Yn y Barddoniadur mae'n dadlau dros ryddid creadigol y mesurau rhydd ac yn erbyn "cyfyngderau" y canu caeth a oedd yn ei gyfnod yn rhy aml yn aberthu rhwyddindeb mynegiant er mwyn cwrdd â gofynion y gynghanedd a "gramadeg mecanyddol". Mae Creuddynfab yn ceisio llunio beirniadaeth lenyddol newydd yn seiliedig ar agweddau seicolegol a gweledigaeth fewnol y bardd. Cafodd hynny gryn ddylanwad ar ddatblygiad yr arwrgerdd a'r bryddest ym marddoniaeth Gymraeg ail hanner y 19g."[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).