Cynghanedd
Dull o drefnu geiriau ac odl mewn barddoniaeth er mwyn iddynt swnio'n bersain ac er mwyn i'r farddoniaeth fod yn gofiadwy ydy cynghanedd. Mae'n system o roi trefn arbennig ar gytseiniaid ac mae'n unigryw i'r Gymraeg, (er i farddoniaeth Llydaweg Canol hefyd gael system eitha tebyg). Mae'r gynghanedd fel cyfundrefn yn dyddio'n ôl i'r 14g gyda'r twf sydyn ym mhoblogrwydd mesur y cywydd, ond mae trefnu seiniau o fewn llinell a rhwng llinellau yn draddodiad llawer hŷn. Ceir cyseinedd yng ngwaith y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd, e.e. Hi hen eleni ganed, sy'n llinell o gynghanedd draws allan o Ganu Llywarch Hen a gyfansoddwyd, fe dybir, tua chanol y 9g, a'r llinell Gwedi boregad, briwgig o waith Taliesin (6g).
Pan fo cerdd yn cynnwys cynghanedd, dywedir ei bod yn gerdd gaeth.
Prif fathau o gynghanedd
golyguMae 4 prif fath o gynghanedd:
Is-ddosbarthiadau
golyguMae'r pedwar prif fath o gynghanedd yn rhannu i mewn i'r is-ddosbarthiadau hyn:
Cynghanedd Groes
golygu- Cynghanedd Groes rywiog
- Cynghanedd Groes gytbwys ddiacen
- Cynghanedd Groes gytbwys acennog
- Cynghanedd Groes anghytbwys ddisgynedig
- Cynghanedd Groes anghytbwys ddyrchafedig
- Cynghanedd groes o gyswllt
- Cynghanedd groes o gyswllt gymhleth
- Cynghanedd groes o gyswllt ewinog
- Cynghanedd groes hanner cyswllt
Cynghanedd Draws
golygu- Cynghanedd Draws gytbwys acennog
- Cynghanedd Draws gytbwys ddiacen
- Cynghanedd Draws anghytbwys ddisgynedig
- Cynghanedd Draws anghytbwys ddyrchafedig
- Cynghanedd Draws Fantach
- Cynghanedd Draws Gyferbyn
- Cynghanedd Draws Drwsgl Fantach
Cynghanedd Sain
golygu- Cynghanedd Sain Alun, hefyd Sain Gyrch a Sain Bengoll
- Cynghanedd Sain Deirodl
- Cynghanedd Sain Drosgl
- Cynghanedd Sain Ddwbwl
- Cynghanedd Sain gadwynog
- Cynghanedd Sain lafarog
- Cynghanedd Sain odl gudd
- Cynghanedd Sain o gyswllt
- Cynghanedd Sain o gyswllt ewinog
Cynghanedd Lusg
golygu- Cynghanedd Lusg lafarog
- Cynghanedd Lusg odl gudd
- Cynghanedd Lusg Wyrdro
- Cynghanedd Lusg Deirodl
- Cynghanedd Lusg Bedeirodl
Cyfuniadau ac amrywiadau eraill
golygu- Cynghanedd Erin, hefyd Seinlusg afrosgo
- Cynghanedd Groeslusg
- Cynghanedd Drawsgroes
- Cynghanedd Drawslusg
- Cynghanedd Seindraws
- Cynghanedd Seingroes
- Cynghanedd Seinlusg
- Cynghanedd Gysylltben
- Cynghanedd Drychben
- Cynghanedd Bengoll
Nid yw cynghanedd bengoll yn gynghanedd gywir ond rhwng gair cyrch ac ail linell englyn yn ôl rheolau heddiw.
Ffurfiau newydd o gynghanedd
golyguY Pedwar Mesur ar Hugain
golyguY pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Defnyddir y gynghanedd ym mhob un o'r pedwar mesur ar hugain. Cyfundrefnwyd y mesurau gan Ddafydd ab Edmwnd yn Eisteddfod Caerfyrddin 1451, pan geisiodd gyflwyno dau fesur astrus, gorchest beirdd a chadwynfyr i ddisodli'r englyn milwr a'r englyn penfyr.
Llyfryddiaeth
golygu- John Morris-Jones, Cerdd Dafod (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1925)
- Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd (Argraffiad diwygiedig, Cyhoeddiadau Barddas, 2007)
- Myrddin ap Dafydd, Clywed Cynghanedd (Gwasg Carreg Gwalch, 1994)
- Mererid Hopwood, Cynghanedd i Blant (Cyhoeddiadau'r Gair, 2010)