Calendr Iwliaidd

(Ailgyfeiriad o Y Calendr Iwliaidd)

Addasiad o galendr y Rhufeiniaid yn ystod teyrnasiad Iwl Cesar ydy'r Calendr Iwliaidd a wnaed yn 46 CC ac a ddaeth i rym y flwyddyn ddilynol. Fe'i derbyniwyd gan y rhan fwyaf o wledydd Ewrop a thiriogaethau a wladychwyd yn ddiweddarach gan Ewropeaid e.e. rhannau o gyfandir America, hyd nes iddo gael ei addasu ymhellach a'i alw'n Galendr Gregori yn 1582.

Calendr Iwliaidd
Enghraifft o'r canlynolsolar calendar, arithmetic calendar, interval scale Edit this on Wikidata
MathCalendr Edit this on Wikidata
CrëwrSosigenes of Alexandria Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu45 CC Edit this on Wikidata
Yn cynnwysJulian dominical cycle, mis, blwyddyn galendr, wythnos, diwrnod Edit this on Wikidata
RhagflaenyddRoman calendar Edit this on Wikidata
OlynyddCalendr Gregori Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Delwedd esboniadol: y newid o'r Calendr Iwliaidd i Galendr Gregori.

Ceir ynddo 365 diwrnod wedi'u clystyru'n 12 mis, fel y nodir yn y "Tabl Misoedd". Ychwanegir diwrnod naid ym mis Chwefror bob pedair mlynedd. Mae'r flwyddyn Iwliaidd, felly, yn 365.25 diwrnod o ran hyd. Roedd yn fwriad i'r calendr hwn gyfateb fwy neu lai gyda blwyddyn yr haul. Gwyddai seryddwyr Groegaidd ers cyfnod Hipparchus fod y flwyddyn trofannol ychydig funudau'n llai na 365.25 diwrnod, ond nid oedd y calendr yn ateb y broblem yma. O ganlyniad, roedd tridiau'n ychwanegol - bob pedwar canrif. Cafodd hyn ei gywiro yn y diwygiad Gregori yn 1582, sy'n cyflwyno'r dyddiau naid mewn dull gwahanol. O ganlyniad i hyn mae'r Calendr Iwlaidd 13 diwrnod y tu ôl i'r Calendr Gregori h.y. y 1af o Ionawr ar y Calendr Iwliaidd ydy'r 14eg ar y Calendr Gregori.

Mae'r rhan fwyaf o ganghennau'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol yn parhau i ddefnyddio'r Calendr Iwliaidd i nodi dyddiadau gwyliau crefyddol gan gynnwys y Pasg (Pascha). Mae rhai wedi creu fersiwn a elwir yn Galendr Iwliaidd Diwygiedig.[1] Defnyddir yr hen Galendr Iwliaidd hefyd gan Ferberiaid Gogledd Affrica a Mynydd Athos yng Ngwlad Groeg. Diwygiad arall ohono yw'r "Calendr Alecsandria" a ddefnyddir yn Ethiopia.

Cyfeiriadau Golygu

  1. Towards a Common Date of Easter. Archifwyd 2012-03-20 yn y Peiriant Wayback. (5–10 Mawrth). World Council of Churches/Middle East Council of Churches Consultation, Aleppo, Syria.

Gweler hefyd Golygu