Rhyfel Annibyniaeth America
Ymladdwyd Rhyfel Annibyniaeth America, a elwir hefyd y Chwyldro Americanaidd, rhwng byddin Prydain Fawr a'r 13 talaith yng Ngogledd America oedd wedi gwneud cynghrair a'i gilydd i hawlio annibyniaeth. Cafodd yr Americanwyr gymorth Ffrainc. Ymladdwyd y rhyfel rhwng 1775 a 1783, a'r canlyniad oedd creu gwladwriaeth annibynnol, Unol Daleithiau America.
Math o gyfrwng | war of national liberation |
---|---|
Rhan o | United Kingdom–United States relations |
Dechreuwyd | 19 Ebrill 1775 |
Daeth i ben | 3 Medi 1783 |
Lleoliad | Unol Daleithiau America, Canolbarth America, Cefnfor yr Iwerydd, Y Môr Canoldir, Ynysoedd Balearig, Môr y Caribî, Cefnfor India |
Yn cynnwys | Battle of Negapatam, Western theater of the American Revolutionary War, Great Siege of Gibraltar, Brwydr Brandywine, Battle of Long Island, Brwydr Bunker Hill, Siege of Boston, Battle of Bennington, Battles of Lexington and Concord |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dechreuodd y rhyfel yn 1775, pan gymerodd y gwrthryfelwyr feddiant o lywodraeth pob un o'r tair talaith ar ddeg; digwyddiad pwysig oedd Brwydr Bunker Hill ym mis Mehefin, buddugoliaeth i'r byddin Prydeinig, ond gyda cholledion mawr. Yn 1776, cyhoeddasant y gwrthryfelwyr eu hannibyniaeth gyda Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau. Yn 1777, llwyddodd y gwrthryfelwyr i gymeryd byddin Brydeinig yn garcharorion ym Mrwydr Saratoga, ac o ganlyniad, ymunodd Ffrainc a'r rhyfel at ochr y gwrthryfelwyr yn gynnar yn 1778.
Yn dilyn buddugoliaeth llynges Ffrainc dros lynges Prydain ym Mrwydr y Chesapeake, bu raid i fyddin Brydeinig arall ildio i'r gwrthryfelwyr yn Yorktown yn 1781. Diweddwyd y rhyfel gan Gytundeb Paris yn 1783, gyda'r llywodraeth Brydeinig yn derbyn annibyniaeth yr Unol Daleithiau. Daeth George Washington, oedd wedi bod yn un o brif gadfridogion y gwrthryfelwyr yn ystod y rhyfel, yn Arlywydd cyntaf y wlad.